Mewn tywydd gwael iawn yn Wellington, mae tim rygbi’r Llewod wedi cipio buddugoliaeth funud olaf yn erbyn y Crysau Duon.

Mae hynny’n golygu eu bod nhw wedi dod â’r gyfres yn gyfartal, un yr un.

Owen Farrell, gyda’i gic gosb, a roddodd y Llewod ar y blaen 24-21, gyda dim ond tri munud o’r gêm yn weddill yn Stadiwm Westpac.

Roedd Taulupe Faletau, rhif 8 Cymru, ymhlith y sgorwyr ceisiau.