Bydd Sam Warburton yn capteinio’r Llewod bore fory wrth i’r tîm wynebu Seland Newydd yn yr ail brawf yn Wellington.
Mae’r blaenasgellwr Cymreig wedi bod yn delio â phroblemau i’w goes trwy gydol y daith, a bu pryderon na fyddai’n medru chwarae yn erbyn y Crysau Duon.
Y Cymry eraill yn nhîm y Llewod ar gyfer yr ail brawf yw Alun Wyn Jones, Taulupe Falatau a Liam Williams, gyda Ken Owens a Rhys Webb ar y fainc.
Dim ond ddwywaith – yn 1899 a 1989 – y mae’r Llewod wedi ennill cyfres ar ôl colli’r prawf cyntaf, a dydyn nhw ddim wedi ennill gêm brawf yn Seland Newydd ers 24 o flynyddoedd.
Fe gollon nhw’r prawf cyntaf fore Sadwrn diwethaf ac mae angen buddugoliaeth yfory os ydyn nhw am ennill y gyfres.
Y Tîm
L Williams (Cymru), A Watson (Lloegr), J Davies (Cymru), O Farrell (Lloegr), E Daly (Lloegr); J Sexton (Iwerddon), C Murray (Iwerddon); M Vunipola (Lloegr), J George (Lloegr), T Furlong (Iwerddon), M Itoje (Lloegr), A W Jones (Cymru), S Warburton (Cymru), S O’Brien (Iwerddon), T Faletau (Cymru).
Ar y Fainc
K Owens (Cymru),J McGrath (Iwerddon), K Sinckler (Lloegr), C Lawes (Lloegr), CJ Stander (Iwerddon), R Webb (Cymru),B Te’o (Lloegr), J Nowell (Lloegr).