Fe gollodd Bangor 1-0 oddi cartref yn erbyn Lyngby BK o Ddenmarc neithiwr, felly mae dal gobaith i’r tîm o Gymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ail gymal y gêm ragbrofol yng Nghynghrair Europa.

Maen nhw gartref nos Iau nesaf ac mae disgwyl torf dda ar gyfer ail gymal yr ornest yn erbyn tîm o chwaraewyr llawn amser Lyngby BK.

“Mae’n anodd dweud faint o docynnau sydd wedi cael eu gwerthu [ar gyfer yr ail gymal], ond yn sicr mi fydd mwy yn dod i weld y gêm,” meddai llefarydd Bangor wrth golwg360.

O ran y clybiau eraill o Gymru yng Nghynghrair Europa, mi gollodd Bala 1-2 i FC Vaduz o Liechtenstein, ond daeth llwyddiant annisgwyl i Gei Cona neithiwr wrth iddyn nhw guro HJK Helsinki 1-0.

Y Seintiau yn siomi

Mae gobeithion y Seintiau Newydd o gyrraedd rownd ragbrofol nesaf Cynghrair y Pencampwyr wedi pylu wedi iddyn nhw golli gartref 2-1 i Europa FC o Gibraltar ddechrau’r wythnos.

Bu’r Seintiau yn llwyddiannus wrth geisio cyrraedd ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth dros y pum tymor diwethaf, ond mi fydd yn rhaid i’r rheolwr interim Scott Ruscoe sicrhau fod ei dîm yn perfformio’n well yn yr ail gymal oddi cartref er mwyn cadw’r record honno i fynd.

Mi fydd y tîm yn teithio i Bortiwgal nesaf er mwyn wynebu Europa FC nos Fawrth nesaf.