Mae angen atgyfnerthu statws Neuadd Pantycelyn fel “canolbwynt” i fywyd y Cymry Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, meddai Llywydd newydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.
Gyda myfyrwyr Cymraeg bellach ar wasgar dros gampws y brifysgol medd Gwion Llwyd i Golwg 360 ei fod am weld Pantycelyn yn cael ei adfer fel man cwrdd i’r Cymru. Fe gafodd ei ethol ddiwedd yr wythnos ddiwetha’, ac fe fydd yn dechrau ar y swydd lawn amser yn syth wedi iddo gwblhau ei radd Hanes Cymru yr ha’ hwn.
“Dw i am barhau â’r ymgyrch a pharhau i hybu Pantycelyn a gwneud yn siŵr ei fod yn ganolbwynt i gymdeithas UMCA flwyddyn nesaf, a dw i am neud yn siŵr bod UMCA yn gwneud defnydd ohono fo. Dangos pwysigrwydd Pantycelyn i’r gymdeithas Gymreig yn Aberystwyth,” meddai wrth golwg360.
“Mae mwyafrif y gymdeithas yn byw ym Mhenbryn, ychydig yn byw yn fferm Penglais, a nifer ar draws neuaddau llety’r campws felly, blwyddyn nesa’ y gobaith ydy uno nhw ym Mhantycelyn, a trio hybu Pantycelyn fel lle i gymdeithasu.”
Arwydd o’r hyn sydd i ddod
Gan gyfeirio at arwydd newydd sydd wedi ei gosod ar ochr neuadd preswyl Penbryn er mwyn annog ymdeimlad Cymreig ymysg myfyrwyr yno, dywed Gwion Llwyd bod angen gweithredu pellach.
“Dw i’n meddwl bod y Prifysgol wedi ceisio dangos pwysigrwydd Pantycelyn trwy ei llygaid nhw wrth benodi’r arwydd ar Penbryn, ond blwyddyn nesa’ y gobaith sydd genna i ydy dangos pwysigrwydd Pantycelyn trwy defnyddio Pantycelyn i’r myfyriwr yn hytrach nag dangos fo ar arwydd.”
“Dydy’r sefyllfa presennol ddim yn ddigonol i fyfyrwyr sydd yn dod yma flwyddyn nesaf, Pantycelyn ydy canolbwynt yr undeb, a dydi’r arwydd ddim yn dangos hynna, mae angen dangos y profiad o ddefnyddio Pantycelyn flwyddyn nesaf.”
Datblygu’r Gymraeg
Mae Gwion Llwyd hefyd am weld darpariaeth Gymraeg y brifysgol yn gwella yn ystod ei gyfnod fel Llywydd UMCA ac mae’n gobeithio medru cyfrannu at gynyddu’r nifer sy’n dewis astudio trwy’r Gymraeg.
“Mae’n rhaid i mi ddweud, does dim digon o fodiwlau yn cael eu cynnig i fyfyrwyr Cymraeg astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Felly y gobaith flwyddyn nesaf ydi cydweithio â’r Brifysgol a’r coleg Cymraeg Cenedlaethol i allu mynnu’r cyfle i fyfyrwyr astudio mwy o’u gradd yn y Gymraeg a gobeithio codi canran y myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Gwrandewch ar Gwion Llwyd yn rhannu ei weledigaeth yn y clip hwn: