Rhan o lythyr Robin Llywelyn yn Private Eye
Mae’r ffrae tros droi ysgol Llangennech yn ysgol Gymraeg yn parhau yn Private Eye yr wythnos hon, gyda dau lythyr yn beirniadu ymateb Robin Llywelyn.
Yn y rhifyn blaenorol o’r cylchgrawn dychanol, roedd Robin Llywelyn yn feirniadol o’r ffordd y cafodd y stori ei hadrodd.
Yn ei lythyr, dywedodd Robin Llywelyn (Private Eye, 1439) fod cael ysgol dwy ffrwd yn “fanteisiol i ddwyieithrwydd” ac yn rhoi “rhodd i blant o ddwy iaith”.
Dywedodd fod gan rieni sy’n dymuno “osgoi addysg Gymraeg” opsiynau amgen, ond nad oes gan “y sawl sydd wedi ymgyrchu ers cyhyd am statws cydradd i’r Gymraeg yn yr ardal” yr un dewis.
Roedd e hefyd yn feirniadol o’r cylchgrawn am “gefnogi eithafwyr”, gan gynnwys Neil Hamilton a’r Blaid Lafur yn lleol.
‘Wails from Wales’
Mewn adran ar dudalennau’r Private Eye o’r enw ‘Wails from Wales’, mae’r cylchgrawn wedi cyhoeddi dau lythyr sy’n beirniadu sylwadau Robin Llywelyn.
Yn y llythyr cyntaf, mae David Howard o’r Gelli Gandryll yn cwyno bod “gormod o arian” yn cael ei wario ar gyfieithu dogfennau yng Nghymru, tra bod “llyfrgelloedd, toiledau cyhoeddus, gofal cymdeithasol i’r henoed a gwasanaethau eraill sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cael eu torri’n ddifrifol”.
Mae’n ychwanegu na fydd “unrhyw beth yn fy narbwyllo fod y Gymraeg yn iaith fwy defnyddiol i dderbyn addysg ynddi na Saesneg, lle bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru”.
Ac mae’n cyhuddo Robin Llywelyn o “gulfarn tebyg i’r hyn y mae’n cwyno amdani”.
Yn yr ail lythyr gan Lincoln Grove, mae Robin Llywelyn yn cael ei gyhuddo o “alw enwau a phardduo gwleidyddol”.
Dywed awdur y llythyr fod ysgol ddwy ffrwd “wedi ein gwasanaethu ni’n dda gyda’r gallu i wneud dewis ar sail lles y plentyn”.
“Gyda thristwch mawr rwy’n gweld ysgol bentref ardderchog yn cael ei defnyddio fel pêl-droed wleidyddol… gan bobol sydd â mwy o ddiddordeb mewn ideoleg na barn leol ac addysg y plentyn.”
Ychwanega fod “ceisio creu ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg drwy rannu’r gymuned yr un mor hurt ag y mae’n swnio”.