Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio enw Cymraeg yn unig o hyn ymlaen.

Undeb Aberystwyth ydy’r enw newydd ar yr undeb, wedi i 81% bleidleisio o blaid y newid mewn Cyfarfod Cyffredinol.

Mae newid yr enw yn “adlewyrchu hunaniaeth Gymreig a Chymraeg yr Undeb”, yn ôl y sefydliad.

Yn ddiweddar, mae mwy nag un sefydliad wedi penderfynu defnyddio enw uniaith Gymraeg, gan gynnwys Parc Cenedaethol Bannau Brycheiniog a Marathon Eryri.

Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymru a Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), gyflwynodd y cynnig, gafodd ei drafod gan 150 o fyfyrwyr yn Y Cyfarfod Mawrth yr wythnos ddiwethaf.

“Mae’r newid hwn yn garreg filltir bwysig yn hanes yr Undeb ac yn dangos ein hymrwymiad tuag at y Gymraeg,” meddai.

“Roedd yn uchelgais gennyf i newid yr enw er mwyn adlewyrchu endid Cymraeg yr Undeb Myfyrwyr, ac rwy’n hynod ddiolchgar bod y cynnig wedi’i basio yn y Cyfarfod Cyffredinol gyda mwyafrif sylweddol.

“Braf oedd gweld aelodau o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn dod i gefnogi’r cynnig.

“Mae eleni’n flwyddyn bwysig iawn yn hanes UMCA, gan ein bod yn dathlu hanner can mlynedd, ac felly mae llwyddo i newid enw’r Undeb ehangach i un uniaith Gymraeg yn goron ar ein dathliadau.”

‘Adlewyrchu gwerthoedd craidd’

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth oedd yr undeb myfyrwyr cyntaf yng Nghymru i gyflwyno polisi dwyieithog, ac i weithredu’n gyfangwbl ddwyieithog.

Un o’u prif werthoedd yw “Caru’r Gymraeg”, drwy hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant.

“Rydym ni wrth ein boddau o fod â hunaniaeth Gymraeg gref wrth i ni lansio ein henw newydd yn Undeb Aberystwyth,” meddai Trish McGrath, Prif Weithredwraig Undeb Aberystwyth.

“Mae’r newid yn adlewyrchu ein gwerthoedd craidd ac rydym wirioneddol yn “Caru’r Gymraeg”.

“Cafodd y newid ei groesawu gan ein tîm staff sydd eisoes yn ymfalchïo mewn gweithio i’r undeb yn Aberystwyth, ond rydym yn fwy balch fyth o ddangos hunaniaeth Gymraeg glir.”