Mae’r Gymraeg “yn ffynnu” mewn ysgol Saesneg ar y ffin ar ôl i athrawon ddechrau dysgu’r iaith yn ystod y cyfnod clo.

Ers i griw o athrawon Ysgol Gynradd Langstone ger Casnewydd benderfynu dysgu Cymraeg, maen nhw bellach yn ei chyflwyno i’r plant hefyd.

Yn ystod y pandemig, roedd pennaeth yr ysgol yn awyddus i’r staff ddefnyddio’r amser ar gyfer datblygiad proffesiynol a gofynnwyd i bob aelod wneud modiwl blasu Dysgu Cymraeg i athrawon ar-lein.

Ar ôl gwneud y modiwl blasu, sydd am ddim gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, aeth pedwar o’r athrawon ymlaen i wneud cwrs min nos gyda Dysgu Cymraeg Gwent.

“Mae criw ohonom wedi parhau i ddysgu Cymraeg, ac yn mwynhau yn fawr,” meddai Jude Russells, Dirprwy Bennaeth yr ysgol.

“Ond y person sydd wedi bod yn gyrru’r Gymraeg yn yr ysgol ac sydd wedi gwneud gwaith anhygoel ydy Paula Watts sy’n athrawes Blwyddyn 3 a 4.”

‘Gemau a chaneuon Cymraeg’

Bu Paula Watts ar gynllun sabothol Cymraeg mewn Blwyddyn gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae hi’n teimlo’n angerddol dros yr iaith.

“Dw i wrth fy modd yn siarad Cymraeg a dw i’n manteisio ar bob cyfle posibl i gyflwyno’r iaith i’r plant,” meddai.

“Mae gennym ni nifer o gemau newydd yn Gymraeg er mwyn helpu’r plant i adeiladu brawddegau, cyflwyno geirfa newydd a chynnal sgwrs syml.

“Dw i hefyd yn rhannu gorchmynion Cymraeg y gall y staff ddefnyddio yn y dosbarth wrth ddysgu, ac yn cynnig syniadau pan maen nhw’n cynllunio eu gwersi Cymraeg.

“Mae gennym sesiwn ‘paned a sgwrs’ bob bore Mawrth am 8:15yb sy’n rhoi cyfle i staff siarad Cymraeg gyda’i gilydd dros baned.

“Mae ‘Welsh Wednesday’ yn un o’n hoff ddyddiau ni a’r plant – rydym yn cael llawer o hwyl ac yn cychwyn y dydd gyda gemau a chaneuon Cymraeg.”

Ar ôl arolwg diweddar gan Estyn, y corff sy’n arolygu ysgolion, derbyniodd yr ysgol ganmoliaeth am y cyfleoedd “cyson a pherthnasol” i’r plant ddefnyddio Cymraeg.

“Mae hefyd yn braf pan fo arolygwyr Estyn yn gwerthfawrogi’r gwaith sy’n cael ei wneud ac yn ein canmol am annog yr iaith – mewn cornel o Gymru ble nad yw’r Gymraeg i’w chlywed yn aml,” ychwanega Jude Russell.