Mae athrawes yn Nyffryn Ogwen yn teimlo bod gwyddoniaeth yn faes pwysig ar y “stepen drws”, wrth i ddarpar wyddonwyr ifainc barhau i gael cyfle i elwa ar ysgoloriaeth wyddoniaeth gafodd ei sefydlu yn 2015.

Diolch i haelioni teulu Tomos Wyn Morgan, fu farw yn 30 oed yn 2014, gall myfyrwyr gwyddoniaeth chweched dosbarth mwyaf disglair Ynys Môn fynychu Fforwm Wyddoniaeth Ieuenctid Rhyngwladol Llundain.

Penderfynodd ei deulu gofio amdano drwy roi cyfle i fyfyrwyr eraill fwynhau’r un profiadau ag y cafodd yntau pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni ar yr ynys.

Mae’n ddigwyddiad preswyl dros gyfnod o bythefnos yn Imperial College, ac mae’n denu dros 500 o’r gwyddonwyr ifainc disgleiriaf rhwng 16 a 21 oed o fwy na 70 o wledydd.

‘Pwysig noddi pobol ar lawr gwlad’

Mae Ann George, sy’n byw yn y Felinheli ond yn dod o Benllech ym Môn yn wreiddiol, yn Bennaeth Adran Wyddoniaeth Ysgol Dyffryn Ogwen.

Dywed ei bod hi’n bwysig noddi pobol ar lawr gwlad i fwynhau gwyddoniaeth.

“Rwy’n hoffi bod rhywun yn Ynys Môn yn gallu noddi pobol i fynd i’r cynadleddau mawr yma, a bod y cyfle yna iddyn nhw,” meddai wrth golwg360.

“Rydym yn ceisio dysgu efo Prifysgol Bangor sut i wneud cyswllt efo rhywun sydd yn delio efo llygredd plastig.

“Mae hi’n modelu symudiad llygredd plastig yn y moroedd.

“Rydym yn ceisio sicrhau bod pobol ifanc yn gwybod fod gwyddoniaeth yn digwydd o’u cwmpas nhw hefyd, a ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd mewn rhyw ddinas fawr neu mewn rhyw gyfleuster ymchwil mawr yn bell i ffwrdd, bod o’n digwydd ar eu stepen drws nhw hefyd.”

‘Gwyddoniaeth yw popeth o’n cwmpas’

Yn ôl Ann George, mae gwyddoniaeth yn rhan o bopeth sy’n ymwneud â’n bywydau.

“Gwyddoniaeth yw popeth, rili, pan wyt ti’n meddwl amdano fo,” meddai.

“Mae o i wneud efo’n hiechyd ni, mae o i wneud efo’r colur rydym yn gwisgo a’r glanedyddion rydym yn eu defnyddio i olchi llestri a golchi’n dillad ni.

“Mae o le rydym yn cael ein hegni ni, a pha effaith rydym yn ei chael ar yr amgylchfyd.

“Mae’n bopeth, rili.

“Beth rydw i yn trio gwneud fel athrawes gwyddoniaeth yw trio gwneud pethau yn berthnasol bob amser, ein bod ni’n rhoi cyd-destun real i’r disgyblion.

“Trio annog plant chwilfrydig, eu bod nhw eisiau gwybod sut mae pethau’n gweithio a pham fod pethau’n digwydd felly.

“Hwnna ydy’r prif beth i fi fel athrawes, dyna rwy’n ceisio annog bob amser.”

Dywed fod y Cwricwlwm newydd yn cynnig mwy o gyfle i athrawon wneud hynny nag yr oedd yr hen gwricwlwm ers talwm.

“Rwy’n meddwl erbyn hyn mae’n rhoi cyfle i ni edrych ar gyd-destun mwy lleol rŵan,” meddai.

“Er enghraifft, roeddem yn sôn am dyrbinau gwynt ym Mlwyddyn 7, a fedrwn ni lincio fo i Ynni Ogwen cyn mynd â’r disgyblion allan i weld beth sy’n digwydd yn eu hamgylchfyd eu hunain ac yn eu cymunedau nhw eu hunain.

“Rwy’ hefyd yn meddwl ei fod yn annog disgyblion i fod yn egwyddorol.

“Mae’n rhoi cyfle iddynt feddwl beth sydd yn foesol gywir iddyn nhw ei wneud, a bod technoleg a gwyddoniaeth yn golygu ein bod ni’n gallu dysgu llawer o bethau newydd a’n bod ni’n gallu gwneud pethau, ond dydy hi ddim bob amser yn foesol gywir i’w wneud o.

“Mae gwyddoniaeth yn bwysig, oherwydd mae o’n datblygu gymaint o sgiliau trosglwyddadwy, er enghraifft datrys problemau, llythrennedd, rhifedd, yn ogystal â sgiliau ymarferol a digidol.”

“Profiad anhygoel” un ferch

Un sydd wedi elw ar gyfleoedd a phrofiadau gwerthchweil ym maes gwyddoniaeth yw Mili-Anne Archer o Ysgol Uwchradd Bodedern.

“Roedd mynychu Fforwm Wyddoniaeth Ieuenctid Rhyngwladol Llundain, diolch i’r teulu Morgan ac ysgoloriaeth Tomos, yn brofiad anhygoel,” meddai.

“Cefais fwynhau darlithoedd ac arddangosfeydd gan wyddonwyr blaenllaw, ac ymweld â labordai a phrifysgolion o’r radd flaenaf.

“Roedd yn gyfle gwych hefyd i gwrdd â phobol newydd o bob cwr o’r byd a oedd â diddordeb mewn gwyddoniaeth.”

Mae’r teulu Morgan yn parhau i noddi’r ysgoloriaeth sydd werth £1,800 y flwyddyn ac sy’n cael ei dyfarnu ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, ar ôl i arbenigwr annibynnol asesu cyflwyniadau disgyblion.

Hanes Tomos Wyn Morgan

Bwriad Tomos Wyn Morgan yn y pen draw oedd dychwelyd i Gymru i sefydlu menter fyddai o fudd i bobl leol.

Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Roberts, y deilydd portffolio Addysg a’r Gymraeg ar Ynys Môn, mae’r ysgoloriaeth sy’n dwyn ei enw’n cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr.

“Mae’r ysgoloriaeth yma’n parhau i roi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr o Fôn ymuno â chyfoedion o bob cwr o’r byd yn y digwyddiad gwyddoniaeth fawreddog yma,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i’r teulu Morgan am eu haelioni.

“Mae myfyrwyr gwyddoniaeth mwyaf talentog ein sir yn elwa o’r ysgoloriaeth hon, ac mae’n deyrnged glodwiw i’w mab Tomos.”