Mae pryderon y bydd toriadau cyllid yn effeithio ar y bobol fwyaf bregus yn y gymdeithas, wrth i Lywodraeth Cymru geisio mynd i’r afael â bwlch cyllidebol.

Wrth siarad â golwg360, dywed Peredur Owen Griffiths fod angen mwy o eglurder o ran lle yn union y bydd toriadau’n digwydd yn ystod y tymor hwn yn y Senedd.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi dweud bod angen gwneud toriadau i lenwi bwlch gwerth £900m yn y gyllideb.

Ond yn ôl Peredur Owen Griffiths, mae angen i’r Llywodraeth fod yn fwy clir o ran lle bydd y toriadau’n digwydd.

“Mae dweud bod bwlch o £900m heb lawer o wybodaeth y tu ôl iddo bron yn creu naratif tywyll heb roi lot o’r ffeithiau o ba doriadau maen nhw’n edrych arno,” meddai.

“Mae gen i rywfaint o sympathi o ran ddim gwybod pa arian sy’n dod o San Steffan.

“Ond rydw i’n cael hi’n anodd derbyn bo nhw ddim yn gwybod erbyn hyn lot o’r manylion, a dydy’r ansicrwydd yna ddim yn helpu pobol i deimlo bod y Llywodraeth yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.”

Dywed fod diffyg manylion yn ei gwneud hi’n anodd gwybod pa gamau i’w cymryd nesaf.

“Dydyn ni ddim wedi cael y manylder i allu dweud os ydyn ni’n cytuno efo beth maen nhw’n ei wneud, achos dydyn ni ddim yn gwybod beth maen nhw’n mynd i wneud,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth ydy’r toriadau sydd angen eu ffeindio, ac felly dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd effaith hynny ar wasanaethau lleol.

“Hyd yn oed os dydy pethau ddim yn cael eu torri eleni, bydd cyllid y flwyddyn nesaf yn hynod o dynn.”

Effeithio ar y “bobol fwyaf agored i niwed”

Yn y Cyfarfod Llawn ddoe (dydd Mercher, Hydref 4), gofynnodd Peredur Owen Griffiths i’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans am ragor o eglurder o ran y ffigyrau a pha drafodaethau sy’n digwydd gyda chynghorau lleol ynghylch y toriadau.

Dywedodd fod angen cywiro’r cofnod, ac egluro o ble ddaeth y ffigwr £900m.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid fod y ffigwr yn ganlyniad i ymarfer gafodd ei gynnal gan swyddogion a dadansoddwyr Trysorlys Cymru ar effaith chwyddiant ar werth y gyllideb.

Yn ôl y gweinidog, mae asesiadau effaith ar y gweill er mwyn penderfynu ble yn union i ryddhau’r arian.

“Yn amlwg, mae’r asesiadau effaith wedi bod yn bwysig iawn, felly pan fo cyd-aelodau wedi bod yn ystyried o ba feysydd o’u cyllidebau i ryddhau arian, yn amlwg maent wedi bod eisiau cynnal asesiadau effaith cyn gwneud y penderfyniadau hynny,” meddai Rebecca Evans.

Dywed hefyd mai’r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas sy’n debygol o deimlo’r effaith waethaf.

“Ac yna, mae angen i mi gynnal asesiad effaith cronnus traws-Lywodraethol go iawn i ddeall lle y bydd yr effeithiau’n cael eu teimlo fwyaf oherwydd, wrth gwrs, pan fyddwn ni’n torri gwariant cyhoeddus, y bobl fwyaf agored i niwed sy’n mynd i fod yn anochel yn teimlo rhywfaint o hyn, oherwydd dyma’r bobl sydd bob amser yn elwa fwyaf o wariant cyhoeddus,” meddai.

Bydd datganiad llawn yn cael ei wneud yn y Senedd ar Hydref 17.

Daw hyn ddeufis ar ôl cyhoeddiad gwreiddiol Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, fod angen gwneud toriadau.

‘Angen gwarchod cyllideb iechyd ac addysg’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r toriadau cyllid sydd i ddod yn gyfangwbl, gan ddweud eu bod nhw’n “ddewis gwleidyddol”.

“Mae Llafur yn y broses o dorri ein Gwasanaeth Iechyd Cymreig am y trydydd tro, yr unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd erioed wedi gwneud hynny,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y blaid.

“Mae Cymru’n cael £1.20 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar iechyd ac addysg Lloegr, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol – ac eto dim ond £1.05 mae Llafur yn ei wario ar ein Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a’n gwasanaeth addysg.

“Yn hytrach na blaenoriaethu anghenion pobol Cymru trwy ddyrannu symiau canlyniadol Barnett llawn ar gyfer gwasanaethau allweddol, mae Llafur yn dewis ariannu prosiectau fel ehangu’r Senedd a chyfyngiadau cyflymder 20m.y.a. cyffredinol.

“Er mwyn mynd i’r afael â rhestrau aros Llafur yng Nghymru, ac i unioni 26 mlynedd o gamreolaeth Llafur o’n gwasanaethau cyhoeddus, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir.

“Rhaid inni gael llywodraeth sy’n barod i warchod ein cyllidebau iechyd ac addysg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.