Mae gosod peiriant gwerthu llyfrau mewn ysgol gynradd wedi bod yn gyfle i greu cynnwrf a sbarduno diddordeb mewn darllen, yn ôl Dirprwy Brifathrawes un o ysgolion y de.
Cafodd peiriant gwerthu llyfrau ei osod yn yr ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, ac mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn, gyda phlant yn gallu dewis o amrywiaeth o lyfrau Cymraeg, Saesneg, ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth, a chofiannau.
Mae rhywbeth addas i blant o bob oed yn y peiriant, a bob wythnos mae pob dosbarth yn dewis un disgybl i gael tocyn, ac mae’r enillwyr yn cael eu dewis ar sail eu hymdrechion, eu hagwedd, a’u cynnydd o ran darllen.
Yna, bydd y disgybl yn defnyddio’r tocyn i ddewis llyfr newydd i fynd adref gyda nhw i’w gadw.
Esboniodd Sarah James, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Pen-y-bont, ei bod hi’n bosib i’r disgyblion gyfrannu’r llyfrau’n ôl i’r ysgol os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny a bod y llyfr dal mewn cyflwr da.
Darllen er pleser
Gwelodd Sarah James ar Twitter fod gan ysgol yn Lloegr beiriant tebyg, ac aeth hi ati i gysylltu â chwmni fyddai’n creu a dylunio’r peiriant iddyn nhw ym mis Hydref.
“Bob prynhawn Llun, mae’r athrawon yn dewis plentyn sydd wedi gwella gyda’u darllen, neu sydd wedi ysgrifennu adolygiad llyfr gwych, neu wedi siarad am lyfr maen nhw’n ei ddarllen gartref – mwy o ddarllen er pleser a chynnydd – ac maen nhw’n derbyn tocyn aur, ac maen nhw’n dewis llyfr o’r peiriant,” meddai wrth golwg360.
Bob hyn a hyn, caiff rhestr ddarllen ar gyfer pob oedran ei rhannu â chymuned yr ysgol, rhieni, llywodraethwyr, staff a busnesau lleol yn gofyn a ydyn nhw’n gallu prynu’r llyfrau.
“Rydyn ni’n gwneud hynny bob hanner tymor, neu bob tymor,” meddai wedyn.
“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan rieni a’r gymuned wedi bod yn wych.”
Er bod yr ysgol yn danfon y rhestr drwy Amazon i rieni, mae Sarah James yn dweud eu bod nhw’n derbyn llyfrau sydd wedi cael eu prynu mewn siopau llyfrau lleol, hefyd, yn ogystal â rhai sydd fel newydd, neu bron fel newydd, o siopau elusen.
“Rydyn ni hefyd wedi cael llyfrau gan deuluoedd a’r gymuned sydd erioed wedi cael eu darllen,” eglurodd.
“Felly maen nhw wedi cael eu rhoi yn y peiriant hefyd. Mae gennym ni gyflenwad cyson yn dod drwodd.”
Mae deuddeg dosbarth yn yr ysgol, ac felly mae deuddeg o lyfrau’n cael eu rhoi i ddisgyblion bob wythnos, esbonia Sarah James.
Fe wnaeth yr ysgol gynnal marathon darllen er mwyn codi arian er mwyn prynu’r peiriant, a chynnal y cyflenwad o lyfrau gan godi ychydig dros £2,800.
‘Wrth eu boddau’
Cafodd y peiriant ei gyflwyno fel rhan o fenter ‘Darllen er Pleser’ yr ysgol, sydd â’r nod o greu ffordd o feddwl cadarnhaol ymhlith dysgwyr am ddarllen.
“Mae’r plant wrth eu boddau. Ar ddydd Llun rydyn ni’n cynnal gwobrau’r prif athro, yna’r gwobrau darllen, ac maen nhw i gyd yn fy nghyfarfod i tu allan i’r peiriant gyda’u tocyn ac yn dewis llyfr,” meddai Sarah James wedyn.
“Rydych chi’n aml yn gweld plant yn cerdded drwy’r coridor ac yn cael cip mewn, ac yn dweud: ‘Os dw i’n ennill y wobr, dw i am ddewis y llyfr yma.’
“Mae e’n hyfryd. Dw i wrth fy modd yn llenwi’r peiriant. Fi sy’n mynd efo’r plant i ddewis y llyfrau, ac rydyn ni’n cael llun grŵp mawr, ac mae’n cael ei yrru at rieni’r plant sydd wedi ennill y gwobrau.”
Cyfle i lyfrau gyrraedd tai sydd heb lyfrau
Yn ôl yr awdures Sian Northey, mae gosod peiriannau o’r fath mewn ysgolion yn gyfle i lyfrau gyrraedd aelwydydd a allai fod yn brin o lyfrau.
Mae hi’n dweud ei bod hi’n braf gweld cynllun sy’n cyflwyno darllen mewn ffordd hwyliog, ac yn gwneud darllen yn sbort i blant.
“Mae’n beth da bod yna gyfle yma i lyfrau fynd i gartrefi lle na fysa na lyfrau’n mynd iddyn nhw fel arall,” meddai’r awdures sydd wedi ysgrifennu llyfrau i blant, gan ychwanegu bod y dewis o lyfrau Cymraeg yn beth “cadarnhaol”.
“Mae unrhyw beth sydd yn cael llyfrau i dai sydd yn brin o lyfrau’n beth da.
“Dw i’n meddwl, ei bod hi’n braf gweld cynllun gwreiddiol a chyffrous sy’n gyfle i wneud darllen yn sbort.
“Dyna’r peth mwyaf efo fo, ei fod yn gynllun newydd, a bod yna siawns bod yna lyfrau’n mynd i dŷ lle nad oes llawer o lyfrau am fynd, un ai gan eu bod nhw methu’u fforddio nhw neu gan nad oes ganddyn nhw ddiddordeb.”
Ychwanegodd Sian Northey y byddai’n hoffi gweld y fath gynllun yn cael ei fabwysiadu mewn rhagor o ysgolion, a bod apêl y cynllun yn y ffaith ei fod yn annog plant i ddathlu darllen.