Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud eu bod nhw’n cydweithio â’r heddlu ac ysgolion i fynd i’r afael â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug “amhriodol” mewn ysgolion.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod disgyblion ysgolion yn y sir wedi bod yn defnyddio’r ap poblogaidd TikTok i sarhau eu hathrawon.

Roedd hyn yn cynnwys rhoi wynebau staff ar luniau pornograffig, gwneud sylwadau dirmygus amdanyn nhw, a hyd yn oed awgrymu bod rhai athrawon yn bedoffiliaid.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn dweud bod y “mwyafrif llethol o ddisgyblion wedi arddangos agwedd aeddfed iawn gan fynegi eu hanniddigrwydd gyda’r cynnwys”.

Mae’n debyg bod achosion tebyg wedi bod yn Ysgol Cwm Tawe, Abertawe, gyda’r tuedd yn cael ei ledu rhwng disgyblion ysgol ar yr ap TikTok.

‘Testun pryder’

“Mae ysgolion wedi ac yn parhau i weithio’n agos ac yn effeithiol gyda disgyblion i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn eu dysgu a’u lles,” meddai’r Cyngor mewn datganiad ar y cyd â’r Heddlu.

“Mae felly o bryder mawr fod nifer o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug wedi’u creu, yn targedu sylwadau annerbyniol tuag at ysgolion ac unigolion.

“Mae cynnwys y cyfrifon ffug hyn yn gwbl amhriodol ac yn destun pryder.

“Mae ysgolion wedi nodi bod y mwyafrif llethol o ddisgyblion wedi arddangos agwedd aeddfed iawn gan fynegi eu hanniddigrwydd gyda’r cynnwys hwn.

“Bydd Heddlu Dyfed Powys yn parhau i weithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth ymhellach o effaith cynnwys niweidiol fel hyn, ynghyd â chanlyniadau gweithredu yn y fath modd.

“Rydyn ni’n holi’n garedig i rieni/gofalwyr i drafod defnydd pwrpasol o gyfryngau cymdeithasol gyda’u plant a pharhau i gefnogi ysgolion i hyrwyddo parch a charedigrwydd.”

Athrawon yn cael eu recordio a’u huwchlwytho ar-lein heb eu gwybodaeth

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phlatfformau fel TikTok i fynd i’r afael â sefyllfa sydd “allan o reolaeth”