Mae cynlluniau wedi cael eu cynnig ar gyfer adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gwerth £12.5m yn Rhydyfelin.

Mae’r cais yn cynnwys adeiladu ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn, sydd am gau dan gynlluniau Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Pontypridd.

Byddai’r ysgol yn agor ym mis Medi 2024, ac mae hi’n rhan o newidiadau ehangach gwerth £55 miliwn i ysgolion dros Bontypridd drwy Raglen Colegau ac Ysgolion y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Datganiad Dylunio a Mynediad y cais, cafodd adeilad presennol Heol y Celyn ei adeiladu yn y 60au ac nid yw’n addas ar gyfer ei bwrpas erbyn hyn, ac mae cyfyngiadau wrth geisio newid neu ymestyn y safle.

Ar hyn o bryd mae Heol y Celyn yn ysgol ddwyieithog, a byddai’r cynlluniau’n golygu newid i’w dalgylch hefyd. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys disgyblion o Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton, sydd tua thair milltir o Heol y Celyn.

Mae disgwyl i Ysgol Pont Sion Norton gau hefyd fel rhan o’r cynlluniau ehangach ar gyfer ysgolion Pontypridd.

Byddai gan yr ysgol newydd le i 540 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed, a 60 lle yn y feithrinfa.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys Ardal Gemau Amlddefnydd newydd, cae chwarae newydd, maes parcio staff, a safle bws.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal ym mis Hydref 2021 yng Nghanolfan Gymunedol Rhydyfelin, ac fe wnaeth tua 35 person gymryd rhan gan gynnwys preswylwyr lleol a phlant o ysgolion cyfagos, meddai’r Datganiad Dylunio a Mynediad.

Byddai Ysgol Heol y Celyn yn aros ar agor tra mae’r un newydd yn cael ei hadeiladu, ac yna’n cael ei dymchwel ar ôl i’r disgyblion symud i’r ysgol newydd.

Dywedodd y Datganiad Mynediad a Dylunio: “Bydd y datblygiad arfaethedig yn cynyddu cyfleusterau addysg cyfrwng Cymraeg yr ardal yn sylweddol, gan gynnig adeilad modern, wedi’i adeiladu’n bwrpasol, a fydd yn gwella addysgu a dysgu ar y safle, yn ogystal â dod yn gyfleuster cymunedol, o bosib.”