Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau lleoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron fyddai’n uno tair ysgol ar un safle.

Yn 2019, ymatebodd y Cabinet i’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar leoliad yr ysgol gynradd newydd.

Ers hynny, fe fu Cyngor Ceredigion wrthi’n chwilio am dir ar gyfer yr ysgol newydd, ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw wedi prynu safle 5.8 erw drws nesaf i Glwb Pêl-droed Felin-fach.

Roedd barn gref fod rhanddeiliaid yn dymuno gweld yr ysgol yn cael ei lleoli ar safle newydd, ac nid ar gampws Theatr Felin-fach, yn unol ag un o’r opsiynau gafodd eu cynnig.

Bydd ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felin-fach a Dihewyd i gyd yn cau er mwyn ffurfio’r ysgol newydd yn Nyffryn Aeron.

‘Ychwanegiad cyfoethog’

Dywed y Cynghorydd Catrin Miles, sy’n aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes, a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth ar Gyngor Sir Ceredigion, ei bod hi’n “falch iawn” eu bod nhw wedi prynu’r lleoliad hwn.

“Bydd yr ysgol newydd yn darparu offer a chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion oedran cynradd a bydd yn sicr yn ychwanegiad cyfoethog i Ddyffryn Aeron,” meddai.

Cododd y syniad o greu ysgol ardal ar gyfer Dyffryn Aeron ei ben am y tro cyntaf yn 2016, ond cafodd ei ohirio er mwyn ymchwilio ymhellach i’r cyllid fyddai ar gael ar gyfer codi adeilad newydd.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae modd bwrw ymlaen â’r camau nesaf nawr, gan gynnwys sefydlu Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd.

Byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth maes o law, medden nhw.