Llun: PA
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi gohirio penderfyniad heddiw i ad-drefnu pedair ysgol gynradd yn ardal Dyffryn Aeron.
Roedd disgwyl i’r Cabinet drafod y posibilrwydd o gau ysgolion Cilcennin, Ciliau Parc, Dihewyd a Felin-fach a chreu ysgol ardal newydd ar safle Campws Addysg Felin-fach.
Mae’r penderfyniad wedi’i ohirio tan y bydd y Cyngor yn derbyn mwy o wybodaeth am gynlluniau ariannu Llywodraeth Cymru, ac mae’n edrych yn debyg na fydd yr adroddiad newydd ar ddyfodol yr ysgolion yn cael ei gyflwyno tan ar ôl etholiadau lleol mis Mai’r flwyddyn nesaf.
Fe fu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn pwyso ar y Cyngor i ohirio eu penderfyniad gan bwysleisio y bydd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, yn gwneud datganiad am ysgolion gwledig yn y Senedd yr wythnos nesaf.