Gallai Cyngor Gwynedd golli’r hawl i wneud penderfyniad dros symud campws Coleg Menai.

Cafodd y Cyngor gais ym mis Ionawr i ddatblygu’r safle newydd ym Mharc Menai, gan fod cynnal y safle presennol yn mynd i gostio oddeutu £18m i atal effeithiau tywydd yn unig.

Roedd cynlluniau blaenorol i newid y safle wedi eu tynnu yn ôl yn 2019, ond byddai’r cynlluniau newydd yn dod â holl adrannau’r sefydliad ynghyd yn y lleoliad newydd, yn ôl grŵp Coleg Menai.

Mae grŵp Coleg Menai yn rhwystredig fod y cais eto i gael ei ystyried, felly maen nhw wedi apelio i’r Arolygiaeth Cynllunio i wneud penderfyniad ar y cynllun.

“Yn dilyn yr achos sy’n cael ei gyflwyno yn y cais a’r dogfennau ategol, rydyn ni o’r farn y dylai erbyn hyn fod wedi’i gymeradwyo,” meddai’r coleg yn y ddogfen apelio.

“Mae’r oedi wrth benderfynu yn ein harwain ni i’r casgliad mai apêl o ddiffyg penderfyniad yw’r unig ateb i sicrhau bod penderfyniad amserol yn cael ei wneud am y datblygiad pwysig hwn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n “ymwybodol o benderfyniad yr ymgeisydd”, ac y bydd y Cyngor yn “cynnig sylwadau i broses apelio’r Arolygiaeth Gynllunio.”