Mae Pennaeth Rygbi Undeb Cymru wedi datgelu cynlluniau ar gyfer datblygu’r gêm yng Nghymru.

Bwriad y drefn newydd, yn ôl Josh Lewsey, yw sicrhau bod mwy yn cymryd rhan yn y gêm ar bob lefel ac yn dangos y gwerthoedd diwylliannol sydd i’w cael wrth chwarae.

Bydd 43 o ysgolion yn cyflogi swyddogion rygbi llawn amser i gynyddu’r nifer sy’n chwarae ar draws Cymru, ac yn cryfhau’r berthynas rhwng y clybiau a’r ysgolion.  Bydd yna gyfle i fechgyn a merched o bob gallu gymryd rhan a bydd cyfle i ddatblygu arweinwyr ac i gael cymwysterau hyfforddi a dyfarnu drwy’r Fagloriaeth Gymraeg.

‘‘Ein gwaith ni yw sicrhau gofynion y gêm ar bob lefel,” meddai Josh Lewsey, “o’r goreuon i’r gêm yn y gwahanol gymunedau ac rydym yn gobeithio codi proffil a safon y gêm yn yr ysgolion.  Wrth i’r ysgolion a’r clybiau gydweithio bydd dyfodol rygbi’r clybiau yn fwy sicr.  Mae’r tîm hyfforddi cenedlaethol yn cefnogi’r syniadau hyn ac fe fyddant yn cynnal gweithdai i’r swyddogion newydd fydd yn yr ysgolion.  Mae’n gyfle gwych i bob unigolyn gyrraedd ei botensial o fewn y gêm.  Mae penodiad Caroline Spanton fel rheolwr Cenedlaethol Rygbi Merched yn gam pwysig ymlaen ac yn cynnig cyfle cyfartal i fechgyn a merched.”

Ysgol yn gweld gwerth

Dywedodd Prifathro Ysgol Gyfun Ystalyfera, Matthew Evans: ‘‘Fel ysgol yr ydym wedi gweld gwir werth cael swyddog rygbi sy’n rhoi hunanhyder i’r plant, nid yn unig ar y maes chwarae ond mewn bywyd.  Hefyd mae wedi datblygu ei sgiliau yn yr iaith Gymraeg a gwella eu hagwedd at waith ysgol.’’