Aaron Ramsey
Fe allai Aaron Ramsey fod ar y cyrion am dri mis ar ôl anafu llinyn y gâr.  Bydd Ramsey yn colli gemau Cymru yn erbyn Bosnia-Hercegovina a Cyprys ac efallai hefyd y gêm yn erbyn Gwlad Belg ar 16ed o Dachwedd.

Fe gafodd ei anafu yn y gêm ddarbi yn erbyn Tottenham Hotspur ar 27ain o Fedi.  Fe gollodd y Cymro fuddugoliaeth Arsenal yn erbyn Galatasary nos Fercher.

Yr oedd Arsene Wenger yn gobeithio y byddai Ramsey yn medru dychwelyd o fewn mis, ond nid yw hynny’n debygol mwyach.

‘‘Os ydych wedi anafu llinyn y gâr gallwch fod allan o’r gêm am tua 12 wythnos,’’ meddai cyn-flaenwr Cymru Ian Walsh wrth Adran Chwaraeon y BBC.

Bydd Ramsey, sy’n 25 oed a sgoriodd 18 o goliau y tymor diwethaf ac sydd wedi sgorio tair y tymor hwn, yn colli’r gêm yn erbyn Chelsea ddydd Sul.  Hefyd fe allai golli chwe gêm arall yn yr Uwch Gynghrair a thair gêm yng nghynghrair y Pencwmpwyr.

Fe fu Ramsey ar y cyrion am dri mis y tymor diwethaf ar ôl dioddef anaf yn erbyn West Ham ar Ddydd San Steffan.