Matthew Rees
Bydd capten y Gleision Matthew Rees yn dychwelyd i’r tîm fydd yn chwarae yn erbyn Connacht ar y Sportsground yng nghystadleuaeth y Guinness Pro 12 heno.

Mae’r bachwr rhyngwladol yn dychwelyd i’r rheng flaen ac mae’n un o wyth newid i’r tîm a gollodd i’r pencampwyr Leinster y penwythnos diwethaf.

Bydd y prop pen tynn Taufa’ao Filise yn dechrau gêm am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth y tymor hwn, a bydd Gethin Jenkins yn dechrau fel prop pen rhydd.

Y clo Filo Paulo, y blaenasgellwr Macauley Cook a’r wythwr Manoa Vosawai yw’r newidiadau eraill ymysg y blaenwyr.  Caiff Adam Jones ei orffwys yn y gêm hon.

Mae yna dri newid ymhlith y cefnwyr.  Bydd Adam Thomas yn dechrau fel cefnwr a Rhys Patchell yn symud i safle’r maswr.  Daw Dan Fish i fewn ar yr asgell a bydd Gavin Evans, sydd wedi gwella o anaf, yn ymuno â Cory Allen yn y canol.

‘‘Yr ydym yn gwybod bod Connacht yn le anodd i fynd i chwarae,” meddai Mark Hammett, cyfarwyddwr rygbi’r Gleision.

“Yr ydym wedi dangos gwelliant ymhob gêm a bydd yn rhaid dangos hyn yr wythnos hon eto.  Yr oeddem yn siomedig yr wythnos ddiwethaf ac fe ddylem fod wedi cael pwynt bonws yn erbyn Leinster.  Mae angen i ni sicrhau ein bod yn chwarae a chanolbwyntio am yr 80 munud.’’

Tîm y Gleision

Olwyr – Adam Thomas, Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Dan Fish, Rhys Patchell a Lewis Jones.

Blaenwyr – Gethin Jenkins, Matthew Rees (Capten), Taufa’ao Filise, Jarrad Hoeata, Filo Paulo, Macauley Cook, Sam Warburton a Manoa Vosawai.

Eilyddion – Kristian Dacey, Sam Hobbs, Scott Andrews, Josh Turnbull, Josh Navidi, Tavis Knoyle, Gareth Davies a Geraint Walsh.