Sai’n siŵr iawn beth yn union dwi’n ei ddeall o’r ffrae PRS/BBC/Eos, ond fel aelod o Eos dwi’n teimlo yn gryf y dylwn i fod yn cyfranogi rywsut.
Felly’n ddiweddar, mewn cyfarfod i ‘Ddeffro’r Deyrnas’ yng nghwmni Iestyn ‘Rebownder’ Jones, roeddwn i’n falch i weld fod Hywel ‘Acapela’ Wigley yn teimlo’n union yr un fath.
Mae Hywel am drefnu bws, gig a phrotest yn Llundain, felly cadwch olwg ar hynny’n fuan…
Yn y cyfamser pe baech hefyd yn aelod o Eos ac am gyfrannu i gân brotest fodern, ystyriwch yr isod a meddyliwch sut y gall eich talent chi wella’r peth!
Gallwch chi ddim gwneud llawer gwaeth mae’n siŵr gen i…
Yn rhyfedd iawn, wrth gwrdd ag Iestyn a Hywel ( ac mae’n siŵr byddai Ben Huws y cantor yn falch o mensh hefyd) pwy gerddodd heibio ac yna ymuno a ni oedd Mr Sŵn ei hun, John Rostron.
Mae John erbyn hyn yn arwain y Sefydliad Gerddoriaeth Gymreig wrth gwrs – corff sydd wedi bod yn dweud dim yw dim yn gyhoeddus am y ffrae BBC / Eos. Wna i ddim ailadrodd ein sgwrs felly, yn arbennig gan fod neb llai na Mr Mabwysiadu ei hun, Hywel Gwynfryn wedi ymuno â ni am baned!
Lle da ydy Chapter ynde. Megis St. Tropez – neu Cabin – Caerdydd, y lle i weld y bobl ac i’r bobl wich gweld chi!
Yn ail yn unig i gatie’r ysgol wrth gwrs!