Menna Machreth
Menna Machreth, cydlynydd y Gynhrair, sy’n esbonio pam bod angen gweithio o blaid y Gymraeg ar lefel gymunedol

Bydd cyfarfod cenedlaethol cyntaf Cynghrair Cymunedau Cymraeg yn cael ei gynnal yn Y Morlan, Aberystwyth ddydd Sadwrn (12 Ionawr).

Cafodd Cynghrair Cymunedau Cymraeg ei sefydlu ym mis Mehefin y llynedd. Y prif symbyliad dros sefydlu cynghrair yw dyfodol y Gymraeg ar lefel gymunedol. Hanner can mlynedd yn ôl, dywedodd Saunders Lewis byddai’r Gymraeg yn marw; ymatebodd cannoedd o Gymry i’r her a sicrhawyd enillion.

Fodd bynnag, crebachu mae’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol ac fel iaith a ddefnyddir yn naturiol ar lawr gwlad. Gallwn ddathlu fod y Gymraeg yn gyfrwng i addysg ac yn iaith swyddogol, ond rhaid mynd i’r afael â’r angen i godi hyder a ffydd yn y Gymraeg fel bod pobl yn ei defnyddio o ddydd i ddydd. Fel y dengys canlyniadau’r cyfrifiad yn ddiweddar, efallai mai dyma ein cyfle olaf i fynd i’r afael â’r her honno.

Dangoswyd yn glir, felly, na allwn ddibynnu ar lywodraeth nac awdurdod lleol i arwain y ffordd wrth geisio cynnal a chryfhau’r Gymraeg – rhaid i’r arweiniad ddod oddi wrthom ni ein hunain. Mae nifer o’r cymunedau hynny sy’n ymaelodi â’r Gynghrair wedi mynd ati i rymuso eu hunain yn economaidd a diwylliannol, a thrwy hynny, grymuso’r Gymraeg.

Ystyriwch Menter Dyffryn Ogwen (a fydd yn gwneud cyflwyniad am eu gwaith dydd Sadwrn), sy’n cydweithio â Pesda Roc i greu diwylliant byw ym Methesda; maent hefyd yn gwneud llawer o waith ymgyrchu i sicrhau fod unrhyw wasanaeth newydd yn yr ardal yn cyflogi pobl sydd â sgiliau iaith Gymraeg. Menter gydweithredol yw Saith Seren, Wrecsam, sef tafarn Gymraeg sy’n mynd i fod yn ganolbwynt i weithgarwch Cymraeg y dref – enghraifft wych o gymuned yn dod at ei gilydd i weithredu’n gadarnhaol dros y Gymraeg.

Mae Felin 70% yn enghraifft ardderchog o gymuned sy’n helpu pobl sy’n symud i’r ardal i ddysgu’r iaith ac yn rhoi’r gefnogaeth sydd angen arnynt i ddod yn rhugl. Dyma enghreifftiau o gynllunio ieithyddol o’r gwraidd i fyny, ac yn mynd i’r afael â materion economaidd, diwylliannol a chymunedol mewn perthynas â’r Gymraeg.

Pam fod angen Cynghrair, felly? Wel, o gyfathrebu’n well gyda’n gilydd, gallwn ddysgu wrth ein gilydd a chydweithio hefyd. Yn ogystal â hynny, gobeithiwn y bydd y Gynghrair yn llais dros anghenion cymunedau ac y bydd modd lobio dros drefn sy’n gweithio o blaid y Gymraeg ar lefel gymunedol. Dydd Sadwrn, byddwn yn trafod y datblygiadau tai diangen dros Gymru gyfan a’r perygl i’r Gymraeg o ganlyniad i’r datblygiadau hyn.

Gall unrhyw un grŵp cymunedol ymaelodi â’r Gynghrair, boed yn fenter gydweithredol, cyngor cymuned, cyngor tref. Gall unrhyw gymuned yng Nghymru ymaelodi oherwydd credwn fod potensial gan bob cymuned i fod yn gymuned Gymraeg a lle y defnyddir y Gymraeg o ddydd i ddydd.

Haf diwethaf, penderfynodd Llanwenog y byddent yn creu eu grŵp eu hunain, a Cen Llwyd o Lanwenog sy’n esbonio eu cymhellion nhw dros ymaelodi â’r Gynghrair yma:

“Roedd tri dewis:

1. eistedd lawr a gwneud dim

2. llefaru’n groyw a beirniadu a beio pawb a phopeth

3. ymuno â’r Gynghrair a chael cyfle i wneud rhywbeth er mwyn ceisio gwella’r     sefyllfa. Rydym yn falch bod y Gynghrair yn rhoi cyfle i gyd-weithio gyda’n                    gilydd.”

Mae’r posibiliadau ar gyfer cyd-weithio yn helaeth. Er enghraifft, gobeithir y gall grŵp sy’n brofiadol ym maes trefnu gigs helpu cymuned sy’n awyddus i ddechrau nosweithiau gigs. Gallasai’r Gynghrair fod yn fforwm i drafod sut y gall mentrau cydweithredol sydd â’r Gymraeg yn ganolog i’w gwaith gydweithio gyda’i gilydd. Bydd y Gynghrair hefyd yn helpu cymunedau i arbrofi â syniadau ynghylch sut i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn eu hardal ac annog pobl i’w thrysori a’i siarad.

Mae’r cyfarfod cenedlaethol cyntaf hwn felly yn gyfle pwysig er mwyn i’r aelodau presennol ac aelodau arfaethedig i ddod at ei gilydd i drafod sut y gellir cydweithio a pa fath o bethau gallwn fod yn ei wneud i gynnal a chryfhau’r Gymraeg ar lawr gwlad. Gellir darllen agenda’r dydd yma.

Os oes diddordeb ganddoch chi yng ngwaith y Gynghrair, mae croeso i chi fynychu’r cyfarfod hwn. Os oes diddordeb gan eich grŵp cymunedol i ymuno, byddai’n wych pe baech yn medru ymuno â ni ar ddydd Sadwrn, 12 Ionawr rhwng 1yp – 5yp er mwyn gwybod mwy am y Gynghrair a’r posibiliadau ar gyfer y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth am y Gynghrair, cysylltwch â fi, Menna Machreth. Rwyf ar gael i ddod i siarad â chymunedau ar draws Cymru am y Gynghrair a sut y gallent fod yn rhan o’r fenter. Y cyfeiriad e-bost yw menna@cymunedau.org <mailto:menna@cymunedau.org> a’r rhif ffôn yw 01286 662904 / 07973 820580.