Mae'r Gymraeg ar fin taro mynydd iâ
Ifan Morgan Jones sy’n trafod oblygiadau’r Cyfrifiad i’r iaith…
Yn ôl ystadegau’r cyfrifiad mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng o 20.5% i 19%.
Newyddion gwaeth byth o bosib yw’r cwymp trychinebus yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith, gan gynnwys Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Roedd cwymp o 6% yn Sir Gar a 5% yng Ngheredigion.
Rydw i’n byw ar y ffin rhwng y ddwy sir ac mae’r rheswm am y cwymp yn nifer y siaradwyr yn amlwg – ma yna nifer fawr o bobol yma sydd heb eu geni yng Nghymru.
Wrth fynd i lawr i siop y pentref rydw i’n clywed mwy o leisiau o ganolbarth Lloegr nag o ganolbarth Cymru. Mae yn llythrennol fel bod mewn gwlad arall.
Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n bobol hŷn, ond mae yna lawer iawn o Saesneg i’w glywed ar iard yr ysgol hefyd, gan y plant sydd yn gallu siarad yr iaith a rheini di-Gymraeg.
Er ei fod yn galonogol gweld cymaint o blant yn derbyn addysg gynradd yn yr iaith – rhaid holi faint sydd ac a fydd yn parhau i’w siarad ar ôl gadael yr ysgol.
Ar yr un pryd oherwydd diffyg cyfleodd yng Nghymru mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y cadarnleoedd yn cynyddu o hyd.
Does gen i ddim dicter tuag at y bobol yma, y rhai sy’n dod na’r rhai sy’n gadael – dydyn nhw ddim yn ei wneud unrhyw beth o’i le, dim ond yn ymateb i’w hamgylchiadau eu hunain.
Oherwydd gwendid economaidd Cymru does gan y bobol sy’n mynd a dod o’r wlad ddim yr un rheolaeth dros eu lleoliad eu hunain ac y byddai gan drigolion gwlad gyfoethocach.
Bydd polisïau’r glymblaid yn San Steffan tuag at fudd-daliadau yn siŵr o sicrhau y bydd y tueddiad yn parhau – rhagor o bobol dlawd, sâl ac oedrannus yn symud, neu yn cael eu symud, i’r ardal dlotaf, salaf a mwyaf oedrannus ym Mhrydain.
Mae ystadegau’r cyfrifiad yn dangos hyn yn glir. Mae 18% o boblogaeth Cymru dros 65 oed. Mae gan 23% o boblogaeth y wlad anabledd neu broblemau iechyd hirdymor.
Gall pethau waethygu hyd yn oed yn fwy os yw’r Alban yn ennill annibyniaeth a llywodraeth geidwadol barhaol yn teyrnasu yn San Steffan.
Y perygl wedyn yw bod ein haelioni sosialaidd ni’n ein troi ni’n noddfa i bobol sydd methu neu ddim am ymdopi yn y Lloegr fwy adain-dde a llai trugarog sy’n weddill.
Rhaid i unrhyw strategaeth i achub yr iaith fod yn un cynhwysfawr sy’n mynd i’r afael â materion sydd ddim yn uniongyrchol yn ymwneud â’r iaith, ond lles Cymry yn ei chyfanrwydd.
PR i’r Iaith
O ran ceisio hybu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y byr dymor, efallai mai man cychwyn fyddai canolbwyntio mwy o’n hymdrechion ar geisio hybu’r iaith yn yr ardaloedd rheini lle mae nifer y bobol sy’n cael eu geni yng Nghymru, ac yn cyfri eu hunain yn Gymry, yn uchel – fel Cymoedd y De.
Wrth gwrs bod nifer o bobol sy’n cael eu geni yn Lloegr yn dysgu’r Gymraeg – mae fy mam yn un ohonyn nhw – ond mae’n gwneud synnwyr canolbwyntio ar y rheini sydd eisoes yn cyfri eu hunain yn Gymry ac yn rhan o ddiwylliant y wlad.
Efallai y byddai hefyd yn werth buddsoddi llai o egni mewn ceisio sicrhau gwasanaethau yn Gymraeg a rhagor ar geisio hybu defnydd o’r iaith. Dyw hi ddim o bwys i fi os yw fy mil ffôn yn Gymraeg, yn enwedig os yw’r iaith ar ei gwely angau. Hyd y gwn i does neb wedi dysgu na throi cefn ar yr iaith oherwydd diffyg gwasanaeth o’r fath.
Rydw i hefyd yn credu bod angen i ni roi rhagor o bwyslais ar ddelwedd yr iaith.
Rydyn ni’r Cymry Cymraeg yn rhoi llawer o bwyslais ar weithredoedd. Gorymdeithio drwy’r strydoedd. Cadwyno ein hunain i’r rheiliau. Meddiannu pontydd. Cyfnodau yn y carchar, ac yn y blaen.
Mae anufudd-dod sifil wedi bod yn fodd effeithiol o amddiffyn ein hawl i siarad yr iaith. Mae bron i bob buddugoliaeth sydd wedi ei ennill dros yr iaith wedi dod drwy fygwth rhywbeth – protestiadau, ymprydio, glynu sticeri i ffenestri siopau… yn syml, rhoi gymaint o gur pen i wleidyddion ac eraill fel ei bod yn haws iddyn nhw roi i mewn na glanhau lan ar ein holau ni.
Ond rydyn ni’n byw mewn byd lle mae delwedd yn mynd yn fwyfwy pwysig. Ac yn hynny o beth mae’r rheini sy’n elyniaethus i’r iaith yn ennill y frwydr yn hawdd. Bob tro y mae’r iaith yn cael ei grybwyll yn y wasg mae mewn cyd-destun negyddol bob tro.
Wele’r straeon di-ri yn y Telegraph a’r Daily Mail yn ddiweddar ynglŷn â’r iaith, a pob un yn pwysleisio’n negyddol. Dyma’r papurau y mae’r Cymry yn eu darllen.
Os ydyn ni am achub yr iaith mae’n rhaid i ni ennill y frwydr PR o’i phlaid hi yn ogystal â sicrhau hawliau i’n hunain.
Rwy’n ymwybodol y bydd Dyfodol i’r Iaith yn lobio gwleidyddion – ac mae lobio yn rhan bwysig iawn o PR effeithiol – ond mae’n rhaid i ni newid agweddau at yr iaith ymysg pobol gyffredin hefyd.
Dydw i ddim yn siwr a yw’r ddelwedd eithafol, ymosodol yn gwneud y tro bellach. Rhaid gwerthu’r iaith fel unrhyw beth arall – fel rhywbeth cadarnhaol y bydd pobol eisiau ei rhoi’n anrheg i’w plant.
Y we
Mae’r rhyngrwyd wedi bod o fudd mawr i’r Gymraeg mewn rhai ffyrdd, ond ddim mewn eraill.
Mae’n caniatáu i’r Cymry Cymraeg aros mewn cysylltiad â’i gilydd heb fyw’r drws nesaf i’w gilydd, sy’n beth da ac yn beth drwg.
Efallai bod yr iwtopia Cymraeg, yr Eisteddfod barhaol yma, yr ydyn ni wedi llwyddo i’w adeiladu ar-lein wedi ein dallu ni i ddirywiad yr iaith yn ein cymunedau.
Rydw i’n euog weithiau o feddwl bod yr iaith yn ffynnu, dim ond am fy mod i’n byw mewn rhyw fath o rith-fyd Cymraeg o flogwyr a nofelwyr a cherddorion eraill.
Mae gallu cadw mewn cysylltiad â’r bobol yma yn sicr yn hwb i’n diwylliant ni.
Ond pan ydw i’n troi’r we i ffwrdd, Saesneg fydd y rhan fwyaf o bobol yn y pentref lle’r ydw i’n byw yn ei siarad o hyd, a hynny mewn ardal oedd tan heddiw yn cael ei ystyried yn gadarnle i’r iaith.
Os nad yw’r iaith wedi ei angori yn ei chymunedau, mae yna berygl y gallai chwythu i ffwrdd a tharo’r creigiau.
Gorffwys ar ein rhwyfau
Roeddwn i’n reit ddigalon ynglŷn â’r ffigyrau yma wrth gychwyn fy nhaith wythnosol o’r de i fyny i’r gogledd ond erbyn cyrraedd yma rydw i ychydig yn fwy gobeithiol.
Rydyn ni wedi bod yn lwcus o weld cwymp gymharol fach yn nifer y siaradwyr Cymraeg a gobeithio y bydd yn gic yn y pen ôl i bawb sydd am weld parhad i’r iaith.
Mae modd rhoi peth o’r bai ar wleidyddion yn y Bae yng Nghaerdydd am eu diffyg gweithredu, ond yn y pen draw mae gweledyddion yn ymateb i bwysau o’r tu allan.
Efallai yn sgil y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ystod y cyfrifiad diwethaf ein bod ni wedi gorffwys ar ein rhwyfau a phenderfynu bod y frwydr wedi ei hennill.
Dylai canlyniadau’r cyfrifiad yma fod yn wers i ni beidio â gwneud hynny byth eto.