Bydd maswr Cymru a’r Scarlets, Rhys Priestland, yn methu pob un o gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddo anafu gwäellen ei ffêr dros y penwythnos.

Cafodd ei anafu yn ystod gêm ei ranbarth yn erbyn Caerwysg ddydd Sadwrn ac mae disgwyl iddo gymryd chwe mis i wella.

Cafodd Priestland lawdriniaeth ar yr anaf bore ‘ma a dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby ei bod hi’n “ergyd i Rhys ac i’r rhanbarth i golli chwaraewr o’i ansawdd a’i ddylanwad.”

“Roedd o’n dod drwodd yn dda yn nwy gêm olaf gemau’r hydref, rhoddodd berfformiad cryf yn erbyn Awstralia ac roedd yn effeithiol iawn yn ein gêm ni yn erbyn Caerwysg.

Felly mae’n anodd iawn iddo gymryd hyn, ond bydd yn cael digon o gefnogaeth gennym ni drwy gydol y cyfnod y bydd i ffwrdd.”

Ac mae’r darogan wedi dechrau i weld pwy fydd yn cymryd lle Priestland yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y ffefryn i wisgo’r crys rhif deg ar hyn o bryd yw Dan Biggar o’r Gweilch sydd wedi chwarae’n gyson drwy gydol y tymor.

Mae llawer yn credu ei bod hi’n hen bryd rhoi cyfle i James Hook yn y safle tra bod Rhys Patchell o’r Gleision wedi gwneud argraff y tymor hwn ac yntau ond yn 19 mlwydd oed.