Ifan Morgan Jones sy’n trafod helynt sgetshys y ffermwyr ifanc nos Sadwrn, mewn darn a ymddangosodd yn gyntaf ar ei flog personol.
Rwy’n cofio’r cyngor ges i wrth fynd ati i gyd-ysgrifennu sgetsh ar gyfer fy nghlwb ffermwyr ifanc lleol: “Gwna’n siŵr bod yna ddigon o benolau, rhechan, a jôcs budr yna fo.”
Cyn i chi ddechrau meddwl mai ryw ffermwr di-chwaeth oedd ffynhonnell y cyngor yma – roedd yn brifardd sydd wedi ennill Coron a Chadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol!
Mae’r ddadl ynglŷn â sgetshys Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn un sydd wedi hollti fy nghyfeillion. Ar yr un ochor mae’r Twitterati Cymraeg sy’n unfrydol o’r farn mai sothach gwarthus a hiliol yw’r cwbl, ar y pen arall mae nifer o gyfeillion o Ddyffryn Teifi sydd wedi ymateb yn chwyrn i unrhyw feirniadaeth o’r sefydliad sydd mor agos at eu calonnau nhw.
Mae fy ffrwd Facebook yn ferw o bobol yn cwyno am gynnwys y sgetshys ar un llaw, a phobol yn cwyno bod S4C wedi tynnu’r sioe o Clic cyn iddyn nhw gael cyfle i’w wylio ar y llaw arall.
Un peth mae’n bwysig i bobol ei gofio yw nad sgriptwyr proffesiynol sy’n rhoi’r pethau yma at ei gilydd. Dynion a merched ifanc, rhai yn ddim mwy na phlant, sy’n mynychu’r ffermwyr ifanc a nhw sy’n creu’r deunydd. Mae’r amser a’r ymdrech y maen nhw’n ei fuddsoddi yn y gwaith yn anghredadwy. Ond mae eu hoed i raddau yn esbonio’r holl fronnau plastig a jôcs budr. Nid syniad ‘cefn gwlad’ am beth sy’n ddoniol yw hyn, ond syniad pobol ifanc am beth sy’n ddoniol (dyw lot o’r ffermwyr ifanc ddim yn ffermwyr).
Mae’r cystadleuwyr yma yn perfformio ar lwyfan am tua phum munud o flaen tyrfa o bobol ifanc eraill o’r Ffermwyr Ifanc. Mae’n anochel bod y comedi yn mynd i fod yn amlwg ac yn ddwl. Mae’r bobol ar Twitter sy’n galw am ryw fath o ddychan soffistigedig yn bod braidd yn afrealistig yn fy nhyb i.
Serch hynny roedd rhywfaint o’r cynnwys gafodd ei ddarlledu ar S4C o’r Eisteddfod nos Sadwrn yn annerbyniol – yn benodol y sgetsh ‘infamous’ am y ddau ddyn o China. Yn hynny o beth rwy’n credu bod y sianel a’r trefnwyr wedi gwneud cam â’r bobol ifanc fu’n cymryd rhan. Ar ryw bwynt fe ddylai rhywun oedd yn ddigon hen i wybod yn well fod wedi atal y peth rhag digwydd, neu o leiaf atal ei ddarlledu. Wedi’r cyfan, uchafbwyntiau’r sioe gafodd eu darlledu ar S4C – lle oedd y golygwyr?
Mae nifer o bobol wedi adfyddino ar y we ac ar y radio i amddiffyn y CffI rhag y cyhuddiadau o hiliaeth yn ei erbyn. Digon posib bod nifer o’r rhain wir ddim yn deall beth oedd yn bod ar y sgetsh – mae nifer o bobol felly i’w cael a dydyn nhw ddim yn gyfyngedig i’r ffermwyr ifanc nag i gefn gwlad. Ond rwy’n credu bod eraill yn gwrthateb mor chwyrn oherwydd bod y CffI yn rhan mor bwysig o’u bywydau a’u bod nhw’n teimlo bod pobol o’r ‘tu allan’ yn ymosod arno’n annheg. Doeddwn i ddim yn ymwybodol iawn o CffI cyn symud i Ddyffryn Teifi, ond mae’n rhan hynod o bwysig iawn o wead cymdeithasol yr ardal.
O brofiad personol gallaf ddweud bod 99.9% o’r hyn y mae’r Ffermwyr Ifanc yn ei wneud yn waith hynod gadarnhaol. Maen nhw’n gwneud gwaith eithriadol wrth hybu’r iaith a digwyddiadau cymunedol ar draws Cymru. Roedd fy nghariad yn aelod brwd am flynyddoedd ac fe fydd y plant yn cael mynd pan maen nhw’n ddigon hen. Mae angen dysgu gwersi o beth ddigwyddodd nos Sadwrn, ond mi fyddai yn cymryd nifer o gamau gwag cyn dadwneud y budd y mae’r Clwb Ffermwyr Ifanc wedi ei roi i Gymru dros y blynyddoedd.
P.S. Roedd ein sgetsh ni’n cynnwys toreth o benolau, bronnau ffug, rhechan, a jôcs budr. Ond doeddwn i heb feistroli’r hiwmor yn amlwg, achos roedd y sgetsh yn agos iawn at waelod y pentwr yng ngolwg y beirniad!