Y Cwpan Heineken – yr uchafbwynt i glybiau rygbi Ewrop sy’n cychwyn heno o dan gwmwl mawr du, medd Owain Gwynedd…
Gyda chlybiau Lloegr a Ffrainc yn bygwth gadael mae’n taflu cysgod dros ddyfodol y gystadleuaeth. Mae rhywun felly yn gobeithio byddan nhw yn canolbwyntio ar bethau eraill tra bydd yr haul yn tywynnu yn garedig ar un o ranbarthau Cymru erbyn diwedd y tymor.
Ond prin yw’r dystiolaeth hyd yn hyn i gefnogi unrhyw lwyddiant. Llwyddiant a fydd yn coroni rhanbarth Cymru fel y prif dîm yn Ewrop am y tro cyntaf ers creadigaeth y Cwpan Heineken nôl yn 1995.
Y Gweilch
Mae’n teimlo fel amser maith yn ôl pan oedd y Gweilch yn cael ei adnabod fel un o’r ‘Galacticos’ ac fel un o’r timau oedd yn cael ei ystyried fel pencampwyr posib Ewrop. Er gwaethaf y toriadau a’r cwtogi yn y garfan, y nhw sydd yn adlewyrchu’r cyfle gorau i Gymru.
Fydd y llwybr i’r rownd nesa ddim yn hawdd pan mae’r grŵp yn cynnwys dau o gewri Ewrop, y ‘Galacticos’ traddodiadol Toulouse a Theigrod Caerlŷr, ac mae Treviso wedi darganfod rhyw fath o galetrwydd yn yr Eidal.
Mae’r gobaith yn syml wedi ei osod yn y sylfaen mae’r blaenwyr yn gallu ei ddarparu. Pac rhyngwladol a phrofiadol sydd yn gallu cystadlu ag unrhyw un ac sydd eisoes wedi profi’r ffaith drwy chwalu Munster yn y Pro12. Fydd y rhif deg gora yng Nghymru ar y funud, Dan Bigger, efo’r cyfle i reoli llif y chwarae ac i gicio pwyntia yn gyson.
Ond, i fod yn bencampwyr Ewrop mae angen ychydig bach yn fwy. Ydi gwendidau’r amddiffyn wedi eu datrys ers dechrau’r tymor? Oes yna ddigon o greadigrwydd allan yn llydan i sgorio pan fydd cyfleoedd prin yn ymddangos?
Rhaid cychwyn heno yn Stadiwm Liberty gyda buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Treviso.
Grŵp 2
Treviso
Caerlŷr
Gweilch
Toulouse
Y Scarlets
Gyda chefnwyr ifanc, talentog a phwerus sydd ymysg y gorau yn Hemisffer y Gogledd (os nad y byd yn achos George North!), mae gan y Scarlets ddigon o arfau i godi pryder ar unrhyw dîm.
Y cwestiwn mawr ydi, a oes ganddynt y blaenwyr i osod sylfaen ymosod cadarn?
Mae’r Scarlets wedi ceisio datrys y broblem yn ystod yr haf drwy arwyddo llu o flaenwyr newydd o’r Ariannin, Awstralia a De Affrica ond efallai o Lanelli maen nhw wedi darganfod yr ateb – Samson Lee!!!
Ar ôl ennill y wobr am seren y gêm yn erbyn y Dreigiau, mae gobeithion am y gŵr 20 oed a 18 stôn yn uchel. Fydd o angen bod yn garreg na all neb ei symud.
Er dweud hynna mae’r sgrym wedi gwegian ar adegau yn barod yn y Pro12 ac yn dal i godi pryder wrth feddwl wynebu paciau mawr timau Ffrainc. A gyda’r Scarlets yn teithio i Stade Marcel Michelin i wynebu Clermont fory, tîm sydd heb golli yno mewn 47 gêm ym mhob cystadleuaeth, mi fydda nhw yn derbyn y prawf eithaf. Prawf fydd angen ymateb o fath Beiblaidd. Prawf sydd yn debygol i fod yn gam yn rhy bell i hyd yn oed Samson.
Tydi pethau ddim yn mynd dim haws gyda Leinster, y pencampwyr presennol, a Chaerwysg, sydd ym mhell o fod yn ffyliaid dal i ddod. Mi fydd angen ‘chydig bach o lwc i adael y grŵp caled yma.
Grŵp 5
Clermont Auvergne
Caerwysg
Leinster
Scarlets
Y Gleision
Yn anffodus mae’n anodd iawn rhagweld unrhyw obaith i’r Gleision dim ots pa mor gryf yw’r gefnogaeth ers dychwelyd i Barc yr Arfau, eu cartref ysbrydol.
Pac gwan a gwallus sydd yn ei chael hi’n anodd iawn i gystadlu ar lefel Pro12 heb sôn am lefel uwch cystadleuaeth Ewrop. Os oedd Glasgow ac Ulster yn gallu chwalu rheng flaen y Gleision, mi fydd sgrym cryf Montpellier a Toulon yn sicr yn gallu ei sathru. Yn aml erbyn hyn mae sgrym sy’n dymchwel yn arwain at gic cosb, a chic cosb yn arwain at dri phwynt. Yn ddigon buan, bydd angen dringo gwerth mynydd o bwyntia.
Dim sylfaen, dim meddiant, dim haneri profiadol i lywio’r gêm, yn golygu dim cyfle i’r hynny o sêr sydd ar ôl gan y Gleision i ddisgleirio. Gall rhywun gyfri ar un llaw pa mor aml wnaeth Jamie Roberts gyffwrdd y bêl mewn sefyllfa ymosodol yn erbyn Glasgow.
Mae’n argoeli mai tymor o adeiladu a chynnig profiad i’r gwŷr ifanc fydd yr ymgyrch yma. O leiaf bod o’n cychwyn gyda thaith i Sale, tîm sydd hyd yn oed wedi cael cychwyn gwaeth i’r tymor na’r Gleision.
Grŵp 6
Gleision
Montpellier
Sale
Toulon