Heno yn Stadiwm y Liberty fe fydd y Gweilch yn herio Treviso yng Hghwpan Heineken Ewrop.

Mae rheolwr y Gweilch, Steve Tandy, wedi enwi tîm cryf gyda deuddeg chwaraewr rhyngwladol yn dechrau a thri ar y fainc.

Yn ôl y disgwyl, mae Justin Tipuric, Adam Jones a Richard Hibbard yn cael eu cynnwys ar ôl pryderon ffitrwydd.

Bydd Hibbard yn gwneud ei ymddangosiad rhif 150 ar gyfer y Gweilch.

Bydd Ryan Bevington yn dechrau yn safle’r prop yn lle Duncan Jones, gyda Johnathan Thomas yn dechrau yn safle’r wythwr.

Cred Gruff Rees, hyfforddwr cynorthwyol y Gweilch, bod angen pum buddugoliaeth er mwyn camu o’r grŵp i’r rowndiau terfynol.

‘‘Fe fydd yn her gorfforol i ni heno.  Ond o ran y gystadleuaeth,  yn syml, mae’n rhaid i ni berfformio’n dda yn y chwe gêm, bydd rhaid i ni fod ar ein gorau.  Bydd angen y dorf tu ôl i ni,’’ meddai.