Simon Easterby
Rhaid i’r Scarlets fynd am y fuddugoliaeth allan yn Ffrainc yfory yng Nghwpan Heineken, yn ôl eu prif hyfforddwr.

Ni fydd chwarae amddiffynnol yn dwyn unrhyw ffrwyth yn erbyn Clermont yn Stade Marcel Michelin, medd Simon Easterby.

Mae Bois y Sosban yn wynebu mynydd o her – mae Clermont wedi chwarae 47 o gemau cartref heb golli.

‘Rydym yn parchu Clermont, ond rwyf am i’r chwaraewyr fynd yno a rhoi o’u gorau yn hytrach nag eistedd nôl ac amddiffyn.  Rhaid i ni fynd yno gydag agwedd bositif,’’ meddai Simon Easterby.

Roedd Clermont yn agos iawn at gyrraedd ffeinal Cwpan Heineken y tymro diwetha’.

Ac mae tîm cyhyrog Leinster yn grŵp y Scarlets hefyd, ac Easterby yn cyfadde’ nad oes disgwyl i’w dîm wneud fawr ddim ohoni mewn cwmni mor ddethol – ond mae’r Gwyddel yn ffyddiog bod ganddyn nhw gystal cyfle ag unrhyw un arall.