Ar waelod pob blog hyd yn hyn ry ni wedi cynnwys podlediad gan Dai Lingual Jnr., sydd wrthi yn ceisio dysgu Cymraeg…wel o’i safbwynt ef, byddai unrhyw iaith sy’n mynd i’w helpu i sicrhau ‘chwaneg o Rich Teas yn fuddiol.

Fel byddai dyn yn disgwyl o ddeall awgrym ei enw, mae yna gryn dipyn o ymdrech hefyd gan aelodau eraill o’n teulu i sicrhau fod ganddo’r iaith fain hefyd!

O leia’ ma Osh yr oedran iawn i ddysgu iaith fel plentyn sydd hyd yn hyn heb gyrraedd ei ddwyflwydd; mae ei ymennydd megis y sbwng chwedlonol ar hyn o bryd – yn barod i dderbyn pob diferyn o iaith er mwyn i hynny gael ei gronni a’i hidlo cyn tywallt allan megis llifogydd.

Wel, dyna ddigwyddodd gyda’i chwaer fawr ta beth, bu hi’n siarad bron â bod dim yw dim heblaw ambell i air dailingual megis car a “cat[h]” …ac yna’n sydyn iawn ar ôl cwrdd â chwaer y chwaer-yng-nghyfraith cwpl o weithiau, dechreuodd ddeall fod yna werth i’r iaith od ma y bu’n clywed ond gan ei thad  (a Cyw).

Ond, fodd bynnag glywon ni yr iaith ar ddechrau un prynhawn Gwener yn ddiweddar wrth i Osh leisio barn ar y “rwtsh Americanaidd” mae ei chwaer yn hoff o wylio ar y teledu; mond ar y penwythnos wrth reswm.  Nos Wener yn benwythnos yn tydi?

Felly ei eiriau cyntaf (ei eiriau cyntaf sydd wedi cael eu recordio ta beth) yw

“YCH A FI!” a gewch chi glywed – wedi tua munud o sgwrs – drwy wasgu’r triongl bach ar y teclyn Soundcloud welwch chi isod,

 

[Odi, mae’n chware rôl asiant cudd wythnos nesaf….]

Os y chi’n ddigon hapus i gyfri “Ych a fi!” fel geiriau o gwbl hynny yw; mae’n sain weddol onomatopaeaidd yn y bôn, ond does dim gair yr union yr un fath yn Saesneg (“eurgh” sy fwyaf agos?) felly i fi mae’n ddigon i gyfri fel gair yn ei hun.

Recordiad cyntaf

Mae’r holl beth i raddau yn f’atgoffa i braidd o’r gemau Olympaidd – mae’n siŵr bod athletwyr wedi arfer a gweld PB – neu record byd hyd yn oed – pan maent wrthi yn ymarfer, ond does dim yn cyfri tan eu bod yn cyrraedd y maes athletau mewn modd cystadleuol.

Yn yr un modd, efallai bod Osh wedi yngan holl weithiau William Shakespeare a Robin Llywelyn yn barod, ond y recordiad cyntaf ohono’n siarad sydd gen i fan hyn felly dyma ei eiriau cyntaf yn swyddogol!  Ac yn y Gymraeg hefyd!  Well in Osh!!

Mae’n eitha’ anodd osgoi clywed ei chwaer yn lleisio barn ac yn mwynhau ei monolog beunyddiol. I fod yn deg iddi, dwi’n credu taw efallai pwt o’r wythnos gyntaf nôl yn ysgol glywch chi fan hyn, felly mae hi wedi blino braidd…chi ddim yn meddwl bydden i’n caniatâi’r fath agwedd negyddol at yr iaith heblaw ‘ny?!  Heb sôn am ei hagwedd tuag at ei thad…

Siarad nonsens

Ond mae’n od yndi, dim ond 5 a hanner ydy hi, ac yn barod mae hi’n dechrau swnian am “orfod” siarad Cymraeg.  A’r union oedran hefyd mae’n debyg i gymryd y cyfle i ymarfer ei hig (fel mae ambell un yn dweud yn Bont?) wrth ddala’r meicroffon.

Dwi’n o falch hefyd nad ydy hi – hyd yn hyn – yn ceisio adrodd “Alf a Bet” yn yr un anadl…go brin byddai unrhyw un yn gallu ffitio’r alffabet Cymraeg i un ‘bwrp’ be bynnag?  Er mae’n siŵr y gall sawl un o griw Pantycelyn fy nghywiro i.  Digon anodd ydyw i ganu’r wyddor yn y Gymraeg heb sôn am ddim arall…

Rhaid imi gyffesu bod yr alffabet Saesneg wedi cael ei hebrwng o’r neilltu gen i allan o’i hystafell, er taw’r wyddor yna oedd ar fy wal i pan yn blentyn.  Yn ogystal â “Hon” wrth gwrs.  Dwi’n difaru gwneud hynny braidd nawr, ond does dim i awgrymu fy mod wedi atal ei gallu i ysgrifennu o weld ei gwaith diweddar o’r ysgol.

Dwi’n ceisio siarad Saesneg gyda’r fechan bob hyn a hyn i weld ei hymateb… seicoleg tu chwith os liciwch chi.

“Dad! Paid â siarad nonsens!” yw’r ymateb fel arfer. ‘Job done’ felly o ran ein hiaith ni!

Balch iawn ydw i felly am hynny; rydw i o ddifri yn meddwl taw’r llwyddiant mwyaf yn fy mywyd hyd yn hyn yw trosglwyddo’r iaith i’r fechan.

Pwrpas bywyd unrhyw unigolyn yw trosglwyddo’r genynnau i’r genhedlaeth nesaf yn naturiol.

Dewis pur felly yw pa iaith sy’n cael ei defnyddio felly ro’n i’n falch tu hwnt i gyflawni’r dasg yna.  Wedi’r cwbl, mae gan yr Alban arian a chyfraith, mae gan Iwerddon ynys a’r weriniaeth…sut fydden ni’n genedl go iawn heb yr iaith?

Mae’r dasg angen dyfalbarhad fel ma’r podlediad o’r wythnos diwethaf yn arddangos, nid pob tro y’ chi’n cael unrhyw ymateb wrth siarad neu ganu yn Gymraeg felly mae’n rhaid cadw ati!

Wel, dwi’n ceisio cadw ati, ond mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil diweddara yn arddangos bod yr iaith yn cael ei cholli fwyaf mewn teulu ble mae ond y tad sy’n siarad Cymraeg.

Ymddengys bod y temtasiwn i siarad y famiaith yn rhy gryf o lawer i lawer.

I ateb y cwestiwn ges i am y blog ar y wythnos gyntaf te; un pwrpas i’r blog yma ydy arddangos i dadau Cymru sut mae trosglwyddo’r iaith yn llwyddiannus drwy ddefnyddio’r dull trochi.

Cadwch ati bois!

Anogaf y merched i wneud unrhyw sylwadau cadarnhaol am gymar sydd yn berchen ar yr iaith, sai’n credo byddai perchennog y gliniadur yma’n rhy hapus pe bawn i’n ychwanegu at y ddadl yna…

Am fwy o wybodaeth am y dull trochi, cysylltwch ar shwmaedai@dailingual.co.uk neu ar www.twitter.com/dailingual .