Ychydig iawn o ddiddordeb sydd wedi bod hyd yma yn y ‘refferendwm arall’ – y bleidlais ar newid y system bleidleisio. Mae’n ddyddiau cynnar ond siŵr na fydd cymaint â hynny yn pleidleisio ar y diwrnod, chwaith. Bydd yn cael ei gynnal yr un diwrnod ac Etholiadau’r Cynulliad ac felly fe fydd y rhan fwyaf o sylw cyfryngau Cymru ar beth sy’n mynd ymlaen ym Mae Caerdydd.
Ond mae yna ddau reswm da dros gymryd diddordeb. Yn gyntaf, fe allai’r refferendwm benderfynu dyfodol y glymblaid yn San Steffan. Os nad ydi’r ymgyrch ‘Ie’ yn fuddugol fe fydd nifer o ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dechrau holi pam eu bod nhw mewn clymblaid o gwbl. Yn ail, fe fydd yn refferendwm ar un o’r cwestiynau rheini nad oes gan y rhan fwyaf o bobol farn bendant amdanyn nhw.
Dyma’r tro cyntaf ers i fi ddechrau pleidleisio nad ydw i’n gwybod o flaen llaw pa ffordd fydd fy mhleidlais i’n mynd, ac mae sawl un yr ydw i wedi siarad â nhw yn yr un sefyllfa. Dw i’n gwbl agored i gael fy mherswadio’r naill ffordd neu’r llall gan yr ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn y system bleidlais amgen.
Dadl bennaf yr ymgyrch ‘Ie’ yw y bydd y system bleidlais amgen yn golygu y bydd rhaid i Aelodau Seneddol weithio’n galetach i ennill cefnogaeth eu hetholaethau. Bydd rhaid iddyn nhw sicrhau cefnogaeth o leiaf 50% o’r pleidleiswyr, hyd yn oed os ydyn nhw’n drydydd neu bedwerydd dewis rhai ohonyn nhw. Y perygl amlwg welaf i gyda’r system yma ydi y gall cynrychiolydd plaid nad oes neb wir eisiau ei weld mewn grym gipio sedd, am ei fod yn drydydd neu bedwerydd dewis llawer iawn o bobol. Efallai ei fod yn well bod ymgeisydd yn ddewis cyntaf o leiaf canran bach o’r boblogaeth, yn hytrach na’i fod yn ddewis cyntaf neb.
Yn ôl ymgyrchwyr o blaid pleidlais ‘Na’, gan gynnwys William Hague, does neb wir eisiau system y bleidlais amgen – cam cyntaf yw’r system tuag at system fwy cyfrannol sy’n debycach i’r hwnnw sy’n cael ei ddefnyddio yn Etholiadau’r Cynulliad. Ond efallai fod hwnnw’n rheswm i bleidleisio o blaid mewn gwirionedd – os ydi’r ymgyrch ‘Na’ yn fuddugol, fe fydd yn cael ei weld yn bleidlais o hyder yn y system cyntaf heibio’r postyn a fydd yna ddim gobaith diwygio’r system bleidleisio am ddegawdau mae’n siŵr.
Cwyn arall yr ymgyrch ‘Na’ ydi y byddai’r system bleidlais amgen yn arwain at ragor o glymbleidio, ac y byddai hynny yn golygu mai gwleidyddion yn trafod ymysg ei gilydd fyddai’n penderfynu pwy sy’n ennill grym yn hytrach na’r bleidlais.
Mae’n ddiddorol ystyried beth fyddai sgil effaith y system bleidleisio newydd yng Nghymru. Yn fy nhyb i fe fyddai’n gwneud drwg i Blaid Cymru ond o les i Lafur a’r Ceidwadwyr. Gan gymryd mai Cymry Cymraeg yw mwyafrif pleidleiswyr Plaid Cymru yng ngorllewin Cymru, byddwn i’n dychmygu y byddai’r blaid yn ddewis cyntaf lot o bobol (ond efallai dim 50%) ond y byddai gweddill y boblogaeth yn pleidleisio dros y tair plaid fawr arall mewn rhyw drefn a fyddai’n ddigonol i gario un dros y trothwy. Heb brofi’r system mae’n amhosib gwybod, wrth gwrs.
Un ddadl arall – o blaid neu yn erbyn – yw bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud y dylid ystyried cyflwyno’r system bleidlais amgen yn Etholiadau’r Cynulliad pe bai’r ymgyrch ‘Ie’ yn ennill y dydd yn y refferendwm. Byddai hynny’n cael gwared ar y rhestr ranbarthol, ac yn debygol o leihau nifer Aelodau Cynulliad Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bennaf.
Mae’n amlwg bod diffygion i’r system cyntaf heibio’r postyn, ond a oes digon o rinweddau i’r system bleidlais amgen i gyfiawnhau’r newid? Dywedodd Winston Churchill am ddemocratiaeth: “Democracy is the worst form of government except all the others that have been tried.” Ydi’r un peth yn wir am y system cyntaf heibio’r postyn?