J P R Williams
Alun Chivers sy’n edrych ar ddylanwad JPR Williams wrth iddo ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon…
Pe baech yn meddwl am sêr disgleiriaf ardal bro Morgannwg, mae’n siŵr y byddai cefnwr tîm rygbi Cymru’r saithdegau, JPR Williams ar frig y rhestr. Chwaraeodd ran flaenllaw yn llwyddiant y tîm cenedlaethol, gan ennill 55 o gapiau rhwng 1969 a 1981. Cynrychiolodd y Llewod wyth o weithiau hefyd.
Cafodd ei fagu yn y 1950au ar aelwyd ddi-gymraeg ym Mhen-y-bont, a oedd yn cael ei hadnabod bryd hynny, yn ôl yr hanesydd Yr Athro Chris Williams, fel “the very heart of the Principality”. Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn yr ardal honno ym 1948, flwyddyn cyn geni J P R.
O ddarllen ei ddwy gyfrol hunangofiannol, mae Cymreictod J P R yn gymhleth. Er ei fod bellach yn ôl yn ei gynefin, treuliodd gyfnodau y tu allan i Gymru yn ystod ei yrfa fel llawfeddyg. Am y rheswm hwn y dewisodd gynrychioli Cymry Llundain ar ôl gadael tîm ei dref enedigol.
Mae J P R yn Brydeiniwr nodweddiadol. Noda yn ei hunangofiant ei fod yn falch o’r teulu brenhinol ac yn wir, cymerodd ran fel bachgen ysgol yn nathliadau Arwisgo Tywysog Charles yn 1969. Mae J P R hefyd wedi derbyn anrhydedd yr MBE, a chyfeiria at ymweld â Phalas Buckingham “for my investiture”.
Ar ben hynny, mae’n feirniadol o agwedd “clannish” y Cymry ar deithiau’r Llewod Prydeinig drwy gydol y saithdegau. Mae ei ddull o fynegi ei Gymreictod yn arwynebol ar ei orau, os nad yn ddifater ar adegau. Wedi dweud hynny, mynega ei siom iddo gael ei eni ddiwrnod yn rhy hwyr ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
Grav yn ysbrydoliaeth
Ond fe ddaeth tro ar fyd, mae’n debyg. Erbyn hyn, fe ddaeth yn fwy ymwybodol o’r Gymraeg wrth fynd ati i ddysgu’r Gymraeg, ac roedd i’w weld yr wythnos hon yn stiwardio ac yn croesawu ymwelwyr i Ganolfan Groeso’r Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn Llandŵ, nid nepell o dref ei febyd. Fe ddywedodd ddydd Mawrth wrth Golwg360 mai ei ysbrydoliaeth i fynd ati i ddysgu’r iaith oedd ei gyfaill, y diweddar Ray Gravell.
Roedd Grav yn wyneb cyfarwydd i’r genedl, ac i’r Eisteddfod a’r Orsedd fel Ray o’r Mynydd, ceidwad y cledd. Roedd Cymreictod Grav yn amlwg i bawb, wrth gwrs, a’i bersonoliaeth heintus wedi dylanwadu ar bawb a ddaeth i’w adnabod. Mae straeon lu amdano’n canu caneuon Dafydd Iwan yn yr ystafell newid cyn gemau Cymru.
Siaradai Gymraeg ar bob cyfle, ac fe gyfarchai pawb yn Gymraeg. Fel y dywedodd yntau yn ei hunangofiant, “rhywbeth byw, sylfaenol bwysig” oedd Cymreictod iddo. Ac mae’n amlwg yr wythnos hon fod rhywfaint o’r agwedd honno wedi’i throsglwyddo i’w gyfoedion.
Mae Prydeindod yn cael ei ddathlu – hyd syrffed, medd rhai – ar y raddfa fwyaf posib yr wythnos hon ym mhen draw’r M4. Neges y Gemau Olympaidd eleni yw ‘Ysbrydolwch genhedlaeth’. Does dim dwywaith fod Ray Gravell wedi gwneud hynny ar raddfa fawr. Os gall J P R lwyddo i ysbrydoli canran fechan o Gymry’r wythnos hon i ddysgu’r iaith, bydd Cymreictod Bro Morgannwg ar ei hennill ymhell wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol ymadael â’r parthau hyn.