Mae arweinydd ffermwyr Cymru wedi annog yr Eisteddfod Genedlaethol i ymrwymo i gyflenwi bwyd Cymreig yn y dyfodol ar faes y Brifwyl.

Wrth groesawu’r syniad o’r “Maes Gwyrdd” yn yr Eisteddfod eleni ym Mro Morgannwg, dywedodd is lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts ei bod yn fwriad ganddo hyrwyddo a diogelu dyfodol hir dymor bwyd Cymreig wrth ddefnyddio ymarferion amgylcheddol cynaliadwy.

“Rwy’n credu y dylai’r Eisteddfod gydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth o fewn ei diffiniad nhw o gynaliadwy, ill dau’n amgylcheddol ac yn economaidd.

“Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn defnyddio mwy o fwyd lleol yn y dyfodol drwy ei pholisi ar gyfer llefydd bwyd ar y Maes.

“I gyflawni hyn, credaf yn gryf y dylai awdurdodau’r Eisteddfod annog y defnydd o fwyd a diod Cymreig ar draws safle’r ŵyl.

“Mae cynaladwyedd yn dechrau o fewn ein cymunedau lleol lle mae nifer cynyddol o ffermwyr yn cynhyrchu cynnyrch bwyd a diod eu hunain o’r radd flaenaf.

“Ond all cymuned ond fod yn gynaliadwy os oes modd cefnogi economi sy’n ddigon cryf i rwystro ymfudiad ac amgylchedd sy’n medru meithrin ei diwydiant amaethyddol.”

Yn ôl gwefan yr Eisteddfod, meddai, amcangyfrifir y bydd £1.5 miliwn yn cael ei wario ar fwyd ar y Maes.

“Hoffwn yn fawr fod y miloedd o ymwelwyr sy’n mynychu’r Eisteddfod yn flynyddol yn cael y cyfle i samplu a darganfod rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gynnyrch Cymreig sydd nawr ar gael ar draws y wlad.”