Y stadiwm Olympaidd
Bu Alun Rhys Chivers yn un o’r rhai lwcus gafodd docyn i weld ras 100 medr y dynion yn y Gemau Olympaidd…

Y Gemau Olympaidd yw’r sioe fwyaf ar wyneb y ddaear, medden nhw, ac ar ôl bod yn y Parc Olympaidd yn Llundain eleni, dwi am eilio hynny. Roedd y wefr i’w theimlo ar unwaith wrth weld y stadiwm o’r draffordd ar y ffordd i mewn, ac wedyn wrth gerdded i mewn trwy’r gatiau a chlywed ‘Parklife’ gan Blur yn atseinio drwy’r stadiwm.

Rhaid dweud bod y trefniadau teithio o’r radd flaena’ hefyd. Ar ôl penderfynu parcio a theithio a gobeithio am y gorau, aed â ni yn syth i grombil y stadiwm ac i ferw’r hwyl. Ond rhaid teimlo trueni dros yr anffodusion oedd wedi gorfod wynebu oedi hir ar gyfer y trên yn Stratford!

Efallai ei bod yn gymhariaeth ychydig yn annisgwyl, ond roedd cael crwydro (ac eistedd) yn hamddenol o amgylch cyffiniau’r stadiwm yn debyg i dreulio prynhawn yn ymlacio yn y bar yn yr heulwen ar faes yr Eisteddfod – a digon o gerddoriaeth acwstig i wrando arni hefyd. A gellir cryfhau’r gymhariaeth honno wrth sôn am y wal o sŵn oedd i’w glywed o’r prif adeiladau o amgylch y parc, yn union fel y floedd a glywch chi o bafiliwn ein prifwyl ni o dro i dro.

Roedd pob arena o fewn taith fer i’w gilydd, a olygai y gallech chi fynd yn gyflym o’r naill i’r llall pe baech chi wedi bod yn ddigon ffodus i gael gafael ar docyn. Siom, wedi dweud hynny, oedd diffyg cysgod rhag y gawod fach a gafwyd yn y prynhawn – ac roedd hynny’n ddigon i animeiddio’r dyn diogelwch wrth y gât wrth symud y dorf ymaith – “byddwch yn ddewr” oedd y siars!

Baner Jamaica

Roedd y glaw, serch hynny, yn gyfle i fynd i chwilio am ambell berl o gofanrheg yn y siop fawr. Afraid dweud fod digon o nwyddau yno ar gyfer y Prydeinwyr balch – tipyn anos oedd dod o hyd i rywbeth ychydig yn wahanol i’r arfer. Roedd canfod rhywbeth â’r cylchoedd Olympaidd arno’n ddigon o her, oni bai eich bod yn graig o arian ac yn fodlon talu £1,250 am set o fathodynnau’r holl wledydd!

Des i allan o’r siop â het, bathodyn (am £7!) a chrys-t – a baner Jamaica! Ie, Jamaica ac nid baner yr Undeb fel rhan fwyaf y dorf y tu fewn i’r parc. Bron iawn y gallech daeru mai Prydain oedd yr unig genedl oedd yn cael ei chefnogi yno.

Adferwyd fy hyder yn y ddynol ryw wrth fynd tuag at y grisiau cyn mynd i fy sedd a chlywed nifer o ieithoedd y byd – a phob un yn plethu’n gelfydd fel cwilt o aml-ddiwylliannedd.


Llu o athletwyr dan yr un to

Ar ôl prynhawn yn ceisio dod o hyd i sgrin fawr i wylio arlwy’r prynhawn (a methu), roedd yr awr fawr ar gyrraedd, a’r sŵn yn fyddarol.

Roedd cyfle yn gynnar yn y noson i weld y rhedwr 1,500m Mo Farah a’r neidiwr hir Greg Rutherford yn derbyn eu medalau aur o’r diwrnod cynt. Cyfle i ddathlu Prydeindod i rai, a chyfle i ddathlu camp athletwyr i eraill, beth bynnag fo’u cenedl. Wedi’r cyfan, onid dathlu’r hil ddynol fu un o nodau’r Gemau Olympaidd erioed?

Fe ges i sioc o weld cymaint o ddigwyddiadau oedd yn cyd-redeg, a rhaid cyfadde’ ’mod i wedi’i chael hi’n anodd dewis pa gystadleuaeth i’w gwylio ar adegau ond fe ges i flas go dda ar y cyfan serch hynny. Gan mor agos oeddwn i’n eistedd i’r fflam (uwch ei phen, fel mae’n digwydd), roedd yn rhaid gwylio’r naid uchel drwy len o darth ym mhen draw’r stadiwm – sôn am awyrgylch ryfeddol.

Roedd naid driphlyg y menywod i’r dde o’r lle roeddwn i’n eistedd ac fe’m ces i fy hun yn symud fy mhen o’r naill i’r llall drwyddi draw a cheisio dilyn llif y ddwy gystadleuaeth. Dechreuodd yr hwyl gyda chystadleuaeth taflu’r ordd. Yng ngrym y gwres, gallech daeru bod y neidiwr uchel yn neidio i ddal yr ordd yn y pellter. O ie, wnes i sôn bod llu o rasys ar y trac ar yr un pryd?

Un o obeithion trefnwyr y Gemau eleni yw y byddant yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr. Yn ddiau, gyda’r holl arwyr yn arddangos eu doniau, roedd yn anodd peidio â chael eich ysbrydoli. Ym mhle arall caech chi Usain Bolt, Sanya Richards-Ross, Krisztian Pars a llu o athletwyr eraill o dan yr un to?


Usain Bolt
Blas ar hanes

Heb amheuaeth, y mwyaf ysbrydoledig o’r athletwyr ar y noson oedd y boi ifanc o Dde Affrica, Oscar Pistorius. Ydy, mae’n gamp i unrhyw un i gyrraedd y Gemau Olympaidd, y pinacl i unrhyw athletwr. Ond mae’n llawer mwy o her i rai na’i gilydd. Bydd enw Pistorius yn mynd i’r llyfrau hanes ar ôl ddoe, y tro cyntaf i baralympiwr gystadlu yn y Gemau Olympaidd. Gwir nad oedd ei berfformiad ar ei goesau metel wedi bod yn ddigon i gyrraedd ffeinal y 400m, ond fe gafodd y gymeradwyaeth ail orau ar y noson.

Aeth y fraint honno i neb llai na’r dyn ei hun, Usain Bolt. Gyda’m baner Jamaica o’m cwmpas, roeddwn yn barod i gael blas ar hanes. Roedd tipyn o sôn cyn ffeinal y 100m ynghylch pwy fyddai’n ennill. A fyddai Bolt yn maeddu ei gyd-wladwr Yohan Blake? A fyddai Blake yn ddigon cyflym i greu sioc? Ai hon fyddai’r ffeinal 100m gyntaf lle byddai pob un o’r wyth yn ei chwblhau o fewn 10 eiliad?

Bolt, wrth gwrs, yw rhedwr cyflymaf y byd, a’r cwestiwn ar wefusau pawb oedd a fyddai’n llwyddo i dorri ei record ei hun? Wel, fe dorrodd un record ac fe ddaeth o fewn trwch blewyn o dorri’r llall. Gydag amser o 9.63 eiliad, torrodd Bolt ei record Olympaidd ei hun o 0.06 eiliad. Yr unig drueni oedd na lwyddodd i dorri 0.05 oddi ar ei record byd. A phe na bai Asafa Powell (y trydydd gŵr o Jamaica yn y ras) wedi baglu, byddai’r wyth ohonyn nhw’n siŵr o fod wedi gorffen y ras o fewn y 10 eiliad.

Gyda Jamaica bellach ar flaen y gad ymhlith y dynion a’r menywod, anaml iawn y clywch chi anthem genedlaethol yr Unol Daleithiau yn y seremonïau y dyddiau hyn, ond gyda Sanya Richards-Ross yn curo Christine Ohuruogu yn y 400m i gipio’r fedal aur, fe ddaeth y cyfle hwnnw cyn diwedd y noson. Roedd y freuddwyd Olympaidd yn gyflawn.

Pwy a ŵyr pryd neu os caf gyfle arall i flasu hwyl y Gemau Olympaidd yn y cnawd, ond gallaf ddweud yn y blynyddoedd i ddod, pan fydd cryn drafod ar orchestion Usain Bolt a’i record Olympaidd yn 2012, ‘fy mod i yno’.