Peter Matthews (llun cyhoeddusrwydd)
Fe gafodd wynebodd y Gweinidog Amgylcheddfeirniadaeth lem gan amgylcheddwyr ar Faes yr Eisteddfod ddoe.
Maen nhw’n ffyrnig fod yr Athro Peter Matthews, sydd heb unrhyw gysylltiad â Chymru, wedi ei benodi’n bennaeth ar y corff newydd amgylcheddol yng Nghymru – sy’n cyfuno’r Cyngor Cefn Gwlad, y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
“Mae’r peth yn gywilyddus,” meddai un amgylcheddwr wrth Golwg360 ond, yn ôl y Llywodraeth fe fydd “ei gyfoeth o brofiad yn rhoi sylfaen ardderchog i yrru’r corff newydd unedig ymlaen”.
Cefndir
Mae’r Athro Matthews wedi bod yn ddirprwy gadeirydd ar gwmni dŵr Anglia ac yn gweithio gyda’r Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon.
Fe fydd y corff newydd yn dod i rym yn 2013, gan ddod yn gyfrifol am gynghori’r Llywodraeth ar bob agwedd ar yr amgylchedd a gofalu am lendid afonydd a dyfroedd eraill ac arolygu glendid diwydiant.