Twr mawr eiconig Warsaw
Kinga Uszko sy’n holi faint o impact gafodd pencampwriaeth Ewro 2012 ar Wlad Pwyl.

Cafodd y newyddion bod Gwlad Pwyl ac Ukraine i lwyfannu EURO 2012  ei groesawu fel peth annisgwyl i bawb. Wedi’r cyfan, roedd y gwledydd yn cael eu gweld fel rhai isddatblygedig a llai pwysig na gwledydd eraill yn Ewrop.

Roedd UEFA yn gofidio na fyddai Gwlad Pwyl ac Ukraine yn llwyddo i groesawu digwyddiad enfawr fel Euro 2012, ond llwyddwyd i dawelu’r ofnau hynny.

Profodd Gwlad Pwyl y gallai drefnu digwyddiadau ar raddfa fawr ac yn fwy na hynny cwrddodd Gwlad Pwyl â disgwyliadau UEFA.

Yn gryno, mae pencampwriaethau pêl-droed yn bwysig iawn i dri maes penodol sef trafnidiaeth, economi a diwylliant, ac mae’r tri maes yma wedi elwa yng Ngwlad Pwyl.

Trafnidiaeth

Ffaith bwysig iawn yw bod cludiant Pwyl wedi gwella’n aruthrol gan fod y llywodraeth wedi gwella’r ffyrdd oedd cyn hynny mewn cyflwr gwael. Yn ogystal, adeiladwyd ffyrdd a phriffyrdd newydd, rhwng y dinasoedd oedd yn llwyfannu’r gemau’n arbennig.

Ar ben hynny, datblygodd dinasoedd fel Wrocław, Poznan a Warsaw eu trafnidiaeth gyhoeddus o ran bysiau a thramiau. Cafwyd gwared ar lawer o hen fysiau am rai mwy amgylcheddol gyfeillgar, ac mae’r mwyafrif o linellau tram wedi cael eu hailosod neu eu hatgyweirio.

Datblygwyd cludiant awyr hefyd achos mae ‘na fwy o hediadau ar gael erbyn hyn ac mae meysydd awyr bellach yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol.



Economi

Mae economi Gwlad Pwyl wedi cael hwb diolch i EURO 2012.

Mae ’na lawer o fuddsoddiadau tramor wedi eu gwneud yn un peth. Nid pêl-droed yn unig sydd wedi cael llawer o arian ond mae meysydd eraill fel y diwydiant dillad chwaraeon neu gyfarpar chwaraeon wedi eu cefnogi hefyd.

Mae Gwlad Pwyl wedi cael llawer o gymorthdaliadau gan UEFA a’r Undeb Ewropeaidd ac o ganlyniad mae’r wlad wedi gwella ei pholisïau cymdeithasol a bancio. Mae’r wlad wedi  gallu cynnal ei chyllideb fantolen a lleihau ei bwlch cyllidebol.

Mae’r bencampwriaeth wedi bod yn hysbyseb ryngwladol i Wlad Pwyl, ac mae hyn wedi denu arian o dramor hefyd, er enghraifft mae wedi denu pobl i ymweld â’r wlad ac i astudio yn ein prifysgolion.

Diwylliant

Mae isadeiledd diwylliannol wedi gwella hefyd. Mae bwytai a thafarnau wedi cael budd,  ac mae llawer o dafarnau newydd wedi agor hefyd. Mae bwytai a thafarnau a oedd ar agor yn barod wedi mynd yn fwy rhyngwladol a nawr maen nhw’n darparu eu gwasanaethau mewn dwy iaith neu fwy.

Mae pistylloedd a pharciau wedi eu hadnewyddu hefyd ac mae hyn yn cyfrannu at werth esthetig ac artistig.  Mae pob tref wedi mynd yn ganolfannau o gelfyddyd a diwylliant.

Mae ‘na llawer o ddigwyddiadau fel gwyliau ac ati wedi’i sefydlu hefyd, a’r hyn sy’n ddiddorol yw bod digwyddiadau artistig neu ddiwylliannol wedi bod mor bwysig â’r EURO 2012 ei hun.

Yr ymateb ar lawr gwlad

Ond beth mae pobol yn dweud am EURO 2012 yng Ngwlad Pwyl?

Mae llawer o bobol yn dweud bod EURO 2012 wedi dechrau newidiadau neu hyd yn oed chwyldro.

Daeth llawer o ymwelwyr i Wlad Pwyl i gael hwyl a chwrdd â phobol ac mae pobol wedi dod i wybod bod llawer o bobl garedig a neis yng Ngwlad Pwyl, tra bod llawer o ymwelwyr caredig hefyd.

Dwi’n credu bod y syniad o Wlad Pwyl fel gwlad dlawd ac annifyr wedi mynd yn angof bellach. Dwi’n credu fod EURO 2012 wedi newid ein hagwedd at bobol a phethau tramor.

Dwi’n gobeithio bod Gwlad Pwyl wedi dechrau ar bennod newydd, heb ragfarnau. Cawn weld beth fydd yn digwydd nesaf.