Castell Dolwyddelan (Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)
Marta Klonowska sy’n adrodd hanes ei diwrnod yn ymweld â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Beth i wneud ar brynhawn rhydd ym mis Gorffennaf, os ydy hi’n pistyllio glaw tu allan?
Wrth chwilio am rywle cynnes a sych, cofiais am farn y Llygoden o “Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud” mai hanes yw peth sychaf yn y byd.
Penderfynais, felly, roi cynnig ar Ddiwrnod Agored Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Aberystwyth. Roedd enw’r digwyddiad yn ddigon sych, siŵr o fod.
Wel, roedd y Llygoden yn gywir ac anghywir. Wedi cyrraedd Plas Crug yn wlyb domen, anghofiais am y glaw a gadewais yr adeilad yn hollol sych ar ôl imi dreulio sawl aur dymunol yn gwrando ar ddarlithoedd, astudio arddangosfeydd diddorol a chrwydro rhwng y stondinau lle’r oedd aelodau’r comisiwn yn cyflwyno eu prosiectau.
Cip o’r awyr
Er tipyn o synod imi, yn hytrach na chanolbwyntio am y gorffennol, prif bwnc y sgyrsiau oedd y technegau diweddaraf a defnyddir i ddarganfod a chofrestru henebion – y rhai hynafol yn ogystal â’r rhai modern.
Gwelid y ddeuoliaeth yn nheitl y ddarlith a agorodd y sesiwn: “Cymru Hanesyddol o’r Awyr: o awyrennau dwbl i laserau” gan Dr Toby Driver a Dr Oliver Davies – awduron llyfr o’r un teitl a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Cyflwynodd Dr Driver gyfres o luniau arbennig a dynnodd yn ystod ei hediadau o gwmpas Cymru. Un o bwrpasau’r hediadau hyn yw recordio cyflwr presennol y dirwedd o’i gymharu â lluniau hanesyddol, wrth gwrs, ond yr hyn sy’n fwyaf diddorol i’r ymchwilwyr yw’r posibilrwydd gwneud darganfyddiadau newydd hanfodol .
Gwneir hyn, yn fwy na dim arall, trwy chwilio am gylchoedd yn y cnwd – ond dydy’r rheiny ddim yn hawdd i’w sbotio. Dim ond am gwpl o wythnosau yn ystod y flwyddyn y gellir eu gweld.
Un o ddarganfyddiadau mwyaf adnabyddus y criw yw’r eglwys Normanaidd colledig yn Llwydfaen, Conwy y daethpwyd o hyd iddo yn 2006.
Ar ôl cipolwg ar hanes y ffotograffiaeth o’r awyr, roedd Dr Davies yn siarad am LiDAR, sef system sganio arwyneb y ddaear trwy ddefnydd laserau. Diolch i dechnoleg hon mae’n bosibl cofrestru pob twmpath a thwll yn y ddaear, hyd yn oed os ydyn nhw wedi’u cuddio o dan goed. Er bod y dechnoleg yn newydd sbon, mae eisoes wedi arwain at ddarganfyddiadau annisgwyl a rhoi posibiliadau newydd i archeolegwyr.
Diwylliant llechi yn 3D
Gyda’r ail ddarlith gan Spencer Smith symudodd y sgwrs i’r digwyddiadau cyfoes. Tasg criw Mr Smith yw animeiddio lleoliadau sy’n ymwneud â’r diwydiant llechi yng Nghymru. Pam creu’r ffilmiau byr sy’n ailadeiladu’r llefydd hyn? Fel yr esboniwyd, mae’r adeiladau hyn dan fygythiad o gael eu dinistrio’n gyfan gwbl o ganlyniad i dywydd carw (beth arall!), datblygiadau yn yr ardal a lladrata.
Ond ar wahân i achub delweddau’r diwylliant diwydiannol, gall animeiddiadau gael ei defnyddio fel ‘teithlyfrau’ i ymwelwyr – yn fuan bydd hi’n bosib lawrlwytho’r ffilmiau i ffônau symudol.
Effeithiau golau
Rhwng y darlithoedd cefais gip ar nifer o stondinau yn y neuadd ac yr hyn hoffais i fwyaf oedd stondin Mr Iain Wright, ffotograffydd y Comisiwn. Nid yn unig oedd yn dangos cyfres o luniau anhygoel o’r dirwedd a henebion Cymru ond datgelodd hefyd gwpl o gyfrinachau am ei waith.
Roedd un o’i luniau hyfryd yn dangos y cyntedd yng Nghastell Powis, gyda gwaith plastro cywrain ar y nenfwd. Mae’n anodd dychmygu bod tynnu llun o’r fath yn cymryd tua 5 awr! Ac mae’n rhaid i ffotograffydd gymysgu sawl delwedd gyda’i gilydd er mwyn cael effaith y golau naturiol sy’n datgelu manylion i gyd.
Mae llawer o’r lluniau hyn i’w weld ar wefan y Comisiwn.
Adnoddau digidol
Peth da hefyd oedd cael gwybod bydd fwyfwy o ddefnyddiau a ddangoswyd yn cael eu digido yn y dyfodol agos a byddan nhw ar gael ar y we i’r rhai sy’n awyddus i gael gwybodaeth am y gorffennol neu ddim ond cynllunio eu teithiau o gwmpas Cymru. Yn bersonol, ar ôl y prynhawn wedi’i dreulio ym Mhlas Crug, rydw i â’m llygad ar nifer o lefydd diarffordd arbennig. Y cwbl sydd angen rŵan yw aros i’r tywydd wella!
Mae Marta Klonowska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl, sydd ar leoliad gwaith gyda Golwg/Golwg360 dros yr haf.