Rhys Llwyd sy’n tafoli degawd o hybu a hyrwyddo achos yr iaith Gymraeg…
Ddeg mlynedd yn ôl es i fy mhrotest Cymdeithas yr Iaith gyntaf. Mae gen i gof plentyn o fynd i rai pan oeddwn i’n blentyn ond dyma oedd y brotest gyntaf i fi fynd gan mod i wedi dewis mynd. Roeddwn i’n ddwy ar bymtheg a phrotest oedd hi i nodi pen-blwydd y Gymdeithas yn 40 ac i alw am Ddeddf Iaith Newydd. Y diwrnod hwnnw ces i fy nghyfareddu gan wefr y mudiad ac ers hynny dwi wedi bod yn ymwneud ac ymgyrchoedd, protestiadau a gigs y Gymdeithas bron a bod pob gwyliau a phob penwythnos rhydd oedd gen i. Roedd penwythnos yma felly, dathliadau’r Gymdeithas yn 50, yn garreg filltir bwysig i mi yn bersonol yn ogystal â’r Gymdeithas yn gyffredinol.
I bobl sydd ddim wedi ymwneud a Chymdeithas yr Iaith mae’n anodd iawn disgrifio naws a psyche y mudiad gan ei fod mor wahanol i bopeth arall sydd gyda ni yng Nghymru. Efallai fod yr hyn sgwennodd Ffred Ffransis ar ei dudalen Facebook heddiw yn crynhoi’r peth yn effeithiol:
Pobl yn holi pam fod nifer yn barod i stiwardio oriau hir yn Hanner Cant. Wrth gwrs mai rhan o’r ymateb yw teyrngarwch at Gymdeithas yr Iaith. Ond, does dim digon o sylw’n cael ei roi i’r gair cyntaf yn nheitl y mudiad “Cymdeithas”. Nid corff, nid sefydliad, nid bwrdd, nid cwango ond cymdeithas o bobl. Rhoddodd pobl oriau hir o lafur gwirfoddol a llawen yn bennaf fel teyrngarwch i ymdrech a gwaith anhygoel y trefnwyr fel Owain Schiavone, Huw Lewis, Iwan Standley, Dewi Snelson, Llyr Bermo a Gwyn. O deyrngarwch i’w hymroddiad nhw y gweithion ni. Run fath pan fydd pobl o flaen llysoedd ac yn wynebu canlyniadau mewn ymgyrchoedd – mae teulu a ffrindiau’n ymroi mewn teyrngarwch. Cadwn y bwyslais ar yr ‘iaith’, ond rhown bwyslais gyfartal ar ‘gymdeithas’.
Dyna Ffred yn taro’r hoelen ar ei phen. Yn aml, pan fydd pobl yn mynd yn rhwystredig gyda’r Gymdeithas am wahanol resymau, maen nhw’n anghofio mae nid sefydliad yw Cymdeithas yr Iaith ond yn syml iawn cymdeithas o bobl – cymdeithas o ffrindiau – teulu.
Yn nathliadau’r Gymdeithas yn 40 ddeng mlynedd yn ôl roeddwn i’n ddwy ar bymtheg ac roeddwn i’n sylwi dros y penwythnos fod yna lawer o bobl ifanc tua’r oedran yna wedi dod. Dwi’n gobeithio y bydda nhw’n cydio yn yr un wefr a chydiais i ynddi ddeng mlynedd yn ôl ac y gwela i nhw eto a hwyntau yn 27 a finnau yn, och a gwae, 37 yn nathliadau’r Gymdeithas yn 60 ar ôl deng mlynedd arall o brotestio beiddgar a rhes o gigs a cherddoriaeth Gymraeg.
Paratown am chwyldro achos NI yw y byd!
Ymddangosodd y blog uchod yn wreiddiol ar blog.rhysllwyd.com