Jacek Kaczmarski
Marta Klonowska sy’n egluro sut y gwnaeth taith i’r traeth yn Aberaeron ei hatgoffa am gân arbennig yn y Bwyleg.
Gwnaeth sefyll ar lan y môr yn Aberaeron i mi feddwl am gân un o’m hoff gantorion o Wlad Pwyl.
Nid y môr ei hun a’m hatgoffodd o’r gân hon, ond gweld creigiau yn ymddangos ar wyneb y dŵr. Peth prin i’w weld ar yr arfordir ym Mhwyl, lle mae glannau Môr Baltig wedi’u cuddio o dan dywod melyn, meddal, a thonnau’n llifo’n llyfn, heb rwystr.
Rhywsut neu’i gilydd, mae golygfa’r cefnfor, gyda chreigiau a cherrig yn crensian dan fy nhraed, yn codi ychydig o aflonyddwch arna’ i. Dw i’n credu mai teimlad eithaf tebyg a ysbrydolodd yr awdur i ysgrifennu’r gân dann sylw.
Y gân ydw i eisiau siarad amdani yw ‘Dwie skały’, neu ‘Dau glogwyn’ gan Jacek Kaczmarski, bardd a chanwr sy’n fwyaf adnabyddus am ei ganeuon gwleidyddol a ysgrifennodd yn y saithdegau a’r wythdegau. Ond mae’r albwm “Dwie skały” (1999) yn dod o gyfnod olaf gwaith Kaczmarski (bu farw yn 2004, yn 47 oed) pan fyddai’n canolbwyntio ar bynciau mwy cyffredinol. “16 dameg am fywyd, cariad a marwolaeth”, dyna sut disgrifiodd e’r albwm hwn.
Ysgrifennwyd “Dau glogwyn” yn Awstralia, lle symudodd Kaczmarski yn y nawdegau. Roedd yn byw mewn pentref o’r enw “Two Rocks” ac yntau’n dod o ddwy graig go iawn, yn codi o Gefnfor India – gallai’r bardd weld y cefnfor a’r clogwyni trwy ffenest ei stafell.
Wrth gyflwyno’r gân yn ystod ei gyngherddau, soniai Kaczmarski hefyd am chwedl leol am griw o forwyr o Iseldiroedd y drylliwyd eu llong ar y ddwy graig dri chan mlynedd yn ôl. Mae’n debyg mai’r stori hon a ysbrydolodd y ddelwedd sy’n ymddangos yn y gytgan.
Er iddi fod yn fyr, un o ganeuon cryfaf Kaczmarski yw hon, yn fy marn i, wrth ystyried ei strwythur dwys a chymesurol. Wedi dweud hynny, hoffwn gyflwyno’r gerdd – yn fy nghyfieithiad Cymraeg – fel y gall pob un ddod i’w farn ei hun (wrth gwrs, mae’r geiriau ac odlau gwreiddiol yn well!). Efallai rhyw ddiwrnod gwyntog ac aflonydd bydd rhywun yn awyddus i ganu’r fersiwn hon?
Dau Glogwyn
gan Jacek Kaczmarski
Ar ôl yr helynt, tymestl, storm a chorwynt
Arhosais ar y ddau efellaidd glogwyn.
Mewn storm a gosteg, rwy’n cydio yn y ddau –
Craig yr anobaith a chlogwyn y gobaith.
Y ddau gynoesol a’r ddau gerfiedig
Gan wynt a glaw a’u grymoedd dull i gyd;
Craig yr anobaith o’r gobeithion colledig
Clogwyn y gobaith o’r anobaith a fu.
Ar ôl yr helynt, tymestl, storm a chorwynt
Arhosais ar y ddau efellaidd glogwyn.
O wawr hyd fachlud, trwy’r dyddiau diddarfod,
Ar graig yr arswyd a chraig y rhyfeddod.
Y ddau yn rymus a’r ddau yn urddasol
Y delwau lluniaidd yn erbyn y gorwelion;
Ar graig yr arswyd – rhyfeddodau a ddiflannodd
Yng nghraig rhyfeddu – mwyn tywyll arswydion.
Ar ôl yr helynt, tymestl, storm a chorwynt
Arhosais ar y ddau efellaidd glogwyn.
Nawr gwelaf mai o’r dechrau roeddent yn fy nisgwyl:
Craig y gwallgofrwydd a chlogwyn y pwyll
Y ddau yn eli rhag diflastod yr ysbryd,
Y ddau yn werth melltithion a gweddïau;
Craig y gwallgofrwydd â’i chrib bregus y pwyll,
Yng nghraig y pwyll – ogofau’r gorffwylltra.
Ar ôl yr helynt, tymestl, storm a chorwynt
Arhosais ar y ddau efellaidd glogwyn.
Un wrth y llall yn ddrych-ddelwedd ac yn gerydd
Ond o’r un egni y cawsant eu cenhedlu.
Mae’r ddau ynghlwm dan y dŵr gan wraidd
Yng nghraidd y bywyd ar byth bythoedd wedi’i osod;
Lle mae pob pwyll yn arswyd ac anobaith
Gobaith yn wallgofrwydd, ac yntau’n rhyfeddod.
(14.10.1998)