Mae’r nofiwr David Roberts yn ystyried cystadlu dros Sweden er mwyn ennill lle yn y Gemau Paralympaidd yn 2016.

Methodd y Cymro, sydd wedi ennill 11 medal aur paralympaidd, â sicrhau lle yn nhim Prydain ar gyfer y Gemau eleni yn dilyn salwch ac anafiadau.

Byddai Roberts yn gymwys i gynrychioli Sweden oherwydd ei fod wedi dyweddïo â merch o’r wlad honno ac yn ystyried dod yn ddinesydd.

Apeliodd Roberts yn erbyn penderfyniad yr awdurdodau Prydeinig i’w adael allan o’r tîm eleni.

Doedd e ddim wedi gallu cystadlu yn rownd gyntaf y treialon oherwydd salwch ac yna methodd â chyflawni’r amser priodol yn y 50m a’r 100m dull rhydd yn Sheffield ym mis Ebrill.

Mae Roberts wedi mynnu na fydd yn ymddeol wedi’r siom.