Ar ôl cyflwyno Asia Rybelska i ddarllenwyr Golwg360 yn ddiweddar, dyma ychydig mwy o’i chefndir.
Gan fy mod yn bwriadu dweud ychydig mwy am fy nheulu y tro hwn, gadewch imi ddechrau â theulu fy mam.
Cafodd fy nhaid ei eni yn y dref fach ger Śrem (dinas fach sy’n tua 50km o Boznań). Gof oedd ei dad, ac roedd o am i’m taid ddod yn un hefyd. Ond rebel oedd fy nhaid yn ei ddydd, ac felly, yn uchelgeisiol iawn, dechreuodd addysg yn gimnazjum (math o ysgol eilradd), wedyn yn ysgol uwchradd, ac wedyn astudiaethau technegol ym Mhoznań ei hun, lle enillodd deitl peiriannydd.
Ar ôl iddo gael gradd, roedd yn gweithio mewn ffatri wydr. Roedd yn arfer teithio llawer ar y pryd, ac o ganlyniad mae’r holl deulu’n gwybod am ei hediadau i’r Unol Daleithiau, Rwsia neu Sweden. Nawr, mae fy nhaid wedi ymddeol o’i waith ers dros ugain mlynedd, ond mae’n fywiog iawn hyd heddiw – mae’n gyrru ei gar ei hun, mynd ar gefn beic yn aml, ac yn gofalu am ei ardd (a gaiff ei ddisgrifio’n fuan).
Y peth diddorol ydy bod fy nain yn dod o dref sy’n agos iawn at dref enedigol fy nhaid. Yn anffodus iddi, plentyn hynaf y teulu (a merch ar yr un pryd) oedd fy nain, ac felly doedd dim modd iddi gael addysg addas ac roedd rhaid iddi weithio’n galed trwy ei bywyd. Ond ar ôl ymddeol, mae fy nain wedi gallu ymlacio’n iawn, ac rŵan mae’n teithio pob blwyddyn i lefydd gwahanol yng Ngwlad Pwyl, ac weithiau dramor hefyd i’r Weriniaeth Tsiec, Slofacia a Thwrci. Mae’n rhaid imi ddweud bod fy nain yn gogyddes ardderchog, a dwi’n arbennig o hoff o’r cacenni mae’n paratoi!
Y genhedlaeth iau
Mae gan fy nhaid a nain bedwar o blant – dwy ferch a dau fab. Nyrs ydy fy modryb, ac mae ganddi un mab sy’n astudio rhyw bwnc yn ymwneud â theatr. Bu’n fath o actor am ychydig hyd yn oed, ond nawr mae’n helpu trefnu digwyddiadau diwylliannol fel gwyliau marchogaeth gyda’r cwmni mae’n cydreoli.
Mae un o’m hewythrod yn gweithio fel adeiladwr ar hyn o bryd, ond roedd ganddo nifer o swyddi cyn hynny. Mae ganddo wraig a mab (yr ieuengaf o’m cenhedlaeth i o’r teulu). Bydd o’n gwneud ei arholiad olaf yn yr ysgol uwchradd mis Mai nesaf. Mae’n troi’n ddeunaw eleni, ac mae gweld y cyw melyn olaf yn troi’n ddeunaw yn peri i’n teulu ni gredu mai dyma fydd achos yr apocalyps a diwedd y byd (ond nid ydy’n damcaniaeth ni’n ddilys bellach, gan bod yr apocalyps oedd i fod i ddigwydd eleni wedi’i ohirio i’r flwyddyn ganlynol erbyn hyn mae’n debyg!).
Mae fy ewythr arall yn gyrru bysiau cyhoeddus ym Mhoznań, ac mae’n efail i fy mam. Mae ganddo wraig ac un mab, sy’n ymddiddori mewn technoleg gwybodaeth. Dechreuodd astudio yn y maes llynedd ac, hyd y gwn i, mae’n eithaf llwyddiannus.
Roedd fy mam (ac mae’n dal i wneud) yn gweithio mewn llefydd amrywiol. Er enghraifft, roedd yn wniyddes a bu’n gweithio ffatri ffiseg ac mewn ffatri fenig. Mae’n gogyddes ardderchog hefyd, ac mae’n hoff o goginio (y peth pwysicaf!) ac arbrofi (yn llwyddiannus) yn y gegin. Hefyd, mae’n mwynhau garddio, ac nid gweithio yn ein gardd ein hunan yn unig mae’n gwneud, ond hefyd yng ngardd fy nhaid a’m nain.
Fel y soniais yn barod, mae ganddynt ardd tu allan i’r ddinas, mewn lleoliad prydferth ger llyn bach a choedwig. Gan fod fy nhaid yn amcanus iawn, ar ben ei dir ei hun, mae wedi llwyddo i ffensio darn o dir gwyllt hefyd, felly mae ganddo ran ychwanegol inni ei ddefnyddio.
Dwi’n cofio inni ymweld â’r ardd yn aml pan oeddem yn blant, ac yn chwarae ynddi’n aml (mae yna siglen a blwch tywod o hyd), yn ogystal â mynd am dro i’r goedwig yn rheolaidd. Lle braf i ddod ydy’r ardd mewn gwirionedd!
Felly dyma deulu fy mam – ysgrifennaf am deulu fy nhad a fi a’m chwaer y tro nesaf.
Mae gan Asia hefyd flog ei hun lle mae’n trafod ei meddyliau trwy gyfrwng y Gymraeg.