Sen Segur - un o hoff fandiau Asia
Yn cyflwyno…Asia Rybelska
Dros yr haf, bydd tair myfyrwraig o Wlad Pwyl yn treulio cyfnod ar leoliad gyda chwmni Golwg. Mae’r tair yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl dysgu ym Mhrifysgol Poznan, ac yn gobeithio ymarfer eu hiaith a chael blas o’r diwylliant Cymreig yn ystod eu cyfnod yma. Dyma gyflwyno’r gyntaf o’r daith, Asia Rybelska, yn ei geiriau ei hun…
I ddechrau, gadewch imi gyflwyno fy hun. Asia ydy fy enw i (bachigyn o enw Joanna). Dwi’n dod o Boznan (ces i fy ngeni a’m magu fan yma) yng Ngwlad Pwyl. Dwi’n astudio ym Mhoznan ac yn dilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd (peth diddorol, wrth imi fwriadu dysgu’r Wyddeleg). Dechreuais fy astudiaethau bedair blynedd yn ôl, ac ers hynny dwi wedi troi at y Gymraeg.
Prif ddiddordebau
Ers imi allu cofio, roeddwn yn ddarllenwraig frwdfrydig. Diolch i’m tad, dwi’n arbennig o hoff o lenyddiaeth ffantasi a ffuglen wyddonol, a dwi’n credu bod awduron Pwylaidd yn arbennig o dda am ysgrifennu llyfrau fel yma. Fodd bynnag, dwi’n ceisio darllen llenyddiaeth amrywiol, felly ar wahân i hynny, byddaf yn rhoi cynnig ar thrillers, straeon arswyd neu nofelau.
Rwyf wedi darllen tipyn o lyfrau Cymraeg hefyd. Yn y dechrau, dim ond llenyddiaeth ar gyfer pobl ifanc, ond wedyn, wrth imi ddatblygu fy sgiliau darllen, llyfrau mwy clasurol. Fy hoff awdures ar hyn o bryd ydy Angharad Tomos, ond yn ddiweddar des i’n ffan o Fflur Dafydd (ar ôl darllen ‘Y Llyfrgell’ – gwych!) a phenderfynu cyfieithu ei gwaith i’r Bwyleg. Cawn weld sut fydd o!
Yr ail beth rydw i’n arbennig o hoff ohono ydy cerddoriaeth. Doeddwn i ddim yn gwrando gormod o gerddoriaeth cyn mynd i’r brifysgol, ond bryd hynny dechreuodd fy anturiaeth gerddorol. Dwi wedi creu fy mlas arbennig fy hun sy’n (dwi’n credu a gobeithio) eithaf amrywiol a diddorol. Ers llynedd dwi’n hoffi darganfod cerddoriaeth Gymraeg (hen a newydd), felly dwi’n ddiolchgar i fandiau sy’n uwchlwytho eu caneuon i lefydd fel SoundCloud neu YouTube, fel fy mod yn gallu gwrando arnyn nhw. Dwi’n bwriadu mynychu gwyl Hanner Cant ym mis Gorffennaf, ac yn edrych ymlaen at weld bandiau dwi’n hoff ohonynt, fel Sen Segur, Yr Ods, Yucatan, Cowbois Rhos Botwnnog a Fflur Dafydd.
Diddordebau eraill
A beth am ddiddordebau eraill? Wel, roeddwn yn arfer ysgrifennu pan oeddwn yn ieuengach, fel straeon byr neu gerddi, ond ni fyddwn yn sicr o’u safon rŵan. Roeddwn yn arfer dysgu fy hun i chwarae’r gitâr a’r piano, ond mae’n anos imi wneud hynny’r dyddiau hyn, heb offer.
Hefyd, dwi’n mwynhau tynnu lluniau, a dwi’n bwriadu (un diwrnod) prynu camera ffansi a chychwyn tynnu lluniau natur – anifeiliaid a phlanhigion gwyllt neu olygfeydd. Dwi’n credu bod Cymru yn lle da i wneud hynny, er nad anifeiliaid gwyllt ydy defaid! A’r peth olaf rwy’n cymryd diddordeb ynddo yw hanes yn gyffredinol (yn cynnwys hanes Cymru). Dwi’n hoffi’r cyfnod hynafol a’r Canol Oesoedd yn enwedig, a dyma pam penderfynais ysgrifennu fy mhapur MA am Owain Glyndŵr a’i fywyd mewn llenyddiaeth.
Cymru
Ac ychydig am fy mhrofiad hyd yn hyn yng Nghymru rŵan. Wel, dwi mor hapus bod gen i gyfle i aros yma dros y gwyliau, mae hyn fel breuddwyd wedi dod yn wir. Mae Cymru mor wyrdd! Mewn theori mae Poznan yn un o ddinasoedd mawrion mwyaf gwyrdd yng Ngwlad Pwyl (neu o leiaf dyma beth dwi wedi’i glywed), ond dwi erioed wedi gweld cymaint o wyrddni yn un lle.
Hefyd, o beth dwi’n ei weld, mae ein tref ni (Aberystwyth) yn arbennig o dawel a llonydd. Pan gyrhaeddon ni yn y prynhawn dydd Sadwrn, doedd dim pobl ar strydoedd … felly fe aethon ni ar goll wrth inni geisio dod o hyd i’n fflat ni. Yn ffodus, llwyddon ni yn y diwedd. Mae pobl leol yn gyfeillgar a chynorthwyol, a dydyn nhw ddim yn poeni am bopeth cymaint ag y mae pobl yng Ngwlad Pwyl (peth da imi).
Ac, yn hollol annisgwyl, mae’r tywydd yn braf! Dwi’n cofio imi ddarllen blog rhywun o Wlad Pwyl a oedd yn arfer byw yn Aberystwyth. Roedd o’n sôn am Y Glaw. Drwy’r amser, byth yn stopio. Ond dwi ddim wedi gweld gormod o law hyd yn hyn, efallai mai dyma sydd i ddod – gawn ni weld.
Disgwyliadau
A beth ydw i’n disgwyl o’r profiad? Wel, yn benodol, hoffwn ddefnyddio’r Gymraeg cymaint ag sy’n bosibl. Dwi ddim yn sicr os ydy’n bosib imi wneud hynny ar strydoedd mor aml (dim ond dau gyfle i wrando ar y Gymraeg go iawn hyd yn hyn), felly dyma’r cyfle gorau, dwi’n credu. Pan oeddwn yng Ngwlad Pwyl, roeddwn innau a sawl un o’m ffrindiau’n ceisio achub ar bob cyfle i siarad ac ymarfer ein hiaith ni gan fynychu cyfarfodydd sgwrsio arbennig (diolch i’n hathrawon Cymraeg ni!).
Dwi’n mwynhau’r syniad inni fod yn gallu ymgyfarwyddo’n hunain â diwylliant Cymru (ym mhob agwedd) hefyd, felly cyfle unigryw i wrando ar, a gweld pethau a fyddai ddim ar gael yng Ngwlad Pwyl – cyfle ardderchog i gyfarfod â phobl sy’n hoffi’r iaith cymaint â ni. Fel dywedais o’r blaen, dwi’n mynd i fynychu Hanner Cant (peth hollol unigryw yn fy marn i), ond yr un hanfodol ydy, wrth gwrs, Eisteddfod. Dwi wedi clywed cymaint am y digwyddiad hwn, ac am yr awyrgylch Gymraeg arbennig. Dwi’n gobeithio y byddwn yn gallu teimlo popeth soniais amdano a chael profiad bythgofiadwy.
Hefyd, hoffwn ddatblygu fy rhuglder yn yr iaith a hyder wrth siarad (gan fy mod i’n teimlo diffyg bach yn yr agwedd yma). Dwi’n credu gallai hynny ddiflannu ar ôl tri mis yng Nghymru.
Da iawn – dyma beth sydd gen i i’w ddweud o’r profiad hyd yn hyn. Dwi’n gobeithio gallaf ddweud ar ôl bod yma fy mod i wedi llwyddo i wneud popeth yn ôl fy nghynllun bach.
Mae gan Asia hefyd flog ei hun lle mae’n trafod ei meddyliau trwy gyfrwng y Gymraeg.