Louise Mensch
Mae Maia Jones yn fyfyrwraig Meistr yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio ar brosiect ar y cyd gyda Golwg360 sydd yn edrych ar sut mae rhwydweithiau cymdeithasol wedi, ac yn newid gwleidyddiaeth Cymru

Diddorol oedd y newyddion bod Aelod Seneddol adnabyddus o’r Blaid Geidwadol, Louise Mensch, wedi datblygu safle newydd ar y we lle gellir rhyngweithio’n gymdeithasol a thrafod pynciau penodol.

Mae’n codi cwestiynau pwysig ynglŷn â rôl gwleidyddion a’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n gofyn y cwestiwn –  ydi o’n addas i wleidyddion newid o fod yn ‘ddefnyddwyr’ i ‘ddatblygwyr’ o’r cyfrwng newidiol yma?

Y Safle – Menshn.com

Cafodd y safle, Menshn.com <http://menshn.com/>, ei gynllunio gan gyn ymgynghorydd digidol y Blaid Lafur, Luke Bosier, ac ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth ar gael yn yr Unol Daleithiau yn unig. Y rhesymeg tu ôl i’r wefan newydd yma yw ei fod yn gweithredu mewn ffordd fwy trefnus, ar lai o hap, lle gellid cael trafodaethau mwy strwythedig ar faterion pwysig y dydd. Fel arfer, mae tair trafodaeth, sef ymgyrch Barack Obama, ymgyrch Mitt Romney a’r etholiad arlywyddol yn gyffredinol.

Gweinyddwyr y wefan sy’n penderfynu pa bynciau sy’n cael eu trafod, yn wahanol i Twitter lle’r mae’r defnyddwyr yn penderfynu pa bynciau i’w trafod (trending).  Mae ychydig mwy o le ar gyfer sylwadau hefyd.

Y Datblygwr – Lousie Mensch

Mae’r gwleidydd a datblygwr y safle newydd, Louise Mensch wedi bod yn ddefnyddiwr selog ac effeithiol ar y safle Twitter ac mae ganddi bron i 60,000 o ddilynwyr. Mae hi wedi llwyddo i fod yn bersonoliaeth amlwg ar Twitter  ac mae hi’n cael ei  hystyried fel un o’r gwleidyddion mwyaf adnabyddus sy’n defnyddio’r cyfrwng. Pan gyhoeddodd papur newydd ‘The Independent’ ei rhestr ‘Twitter 100: Britain’s Titans of the Twittersphere’ daeth Louise Mensch yn rhif 6 ar y rhestr o’r deg gwleidydd fwyaf dylanwadol.

Cymeriad dadleuol yw Louise Mensch ac roedd wedi corddi’r dyfroedd yn ystod terfysgoedd y llynedd pan wnaeth argymell bod safle Twitter yn cael ei “droi i ffwrdd” er mwyn atal pobl rhag defnyddio’r cyfrwng i ysgogi a threfnu terfysgoedd.

Mae’r fenter newydd wedi sbarduno llif o drydar a’r hashtag #menshn, gan hollti barn, gyda rhai yn ei chyhuddo o fod yn hunanol ac o geisio rheoli trafodaethau.

Y Ddadl – Gwell aros yn ddefnyddiwr y cyfryngau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli

Wrth ystyried rhinweddau Twitter a Menshn.com, gellir gweld bod galw efallai am drafodaethau mwy strwythuredig.

Ond trwy newid  y  cyfrwng cymdeithasol mae nifer o nodweddion sylfaenol yn cael eu colli. Nodweddion fel sgyrsiau personol, trafodaethau ar hap, a jôcs firaol.

Onid dyma sy’n gwneud Twitter yn gyfrwng mor wych, yn ogystal â thrafodaethau mwy difrifol? Mae fformat Twitter yn rhoi ewyllys rhydd a rheolaeth i’r defnyddwyr, felly gellir dewis pwy i’w ddilyn a’r math o bethau rydach chi eisiau rhoi sylw iddyn nhw.

Beth bynnag yw teilyngdod y fenter newydd yma, y cwestiwn mawr yw,  a ydi o’n addas i wleidydd dreulio amser ar fentrau newydd wrth weithio’n llawn amser yn gwasanaethu ei hetholaeth yn Northamptonshire? Hefyd, a ddylai un o’r personoliaethau mwyaf adnabyddus ar Twitter ddefnyddio ei statws a’i rôl mewn bywyd cyhoeddus i hyrwyddo ei menter ei hun?

Efallai byddai’n well i wleidyddion ganolbwyntio ar fod yn ddefnyddwyr o’r cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio’r cyfle i gyfathrebu efo’u hetholaeth a thu hwnt.