Logo Gwobrau Dysgu Pearson
Caio Iwan sy’n cael sgwrs gydag
athro hanes  Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon sydd wedi dod i’r brig yn Ngwobrau Dysgu Pearson…

Dw i’n siŵr ei bod hi’n deg dweud fod y mwyafrif helaeth ohonom yng Nghymru heb glywed am  Wobrau Dysgu Pearson.

Bwriad y broses, sy’n cael ei chynnal ar ran yr Ymddiriedolaeth Gwobrwyo Dysgu, yw rhoi cydnabyddiaeth i athrawon “gorau” Prydain.

O’r pump a lwyddodd i wneud y rhestr fer yng Nghymru eleni, Siôn Wyn Jones, athro hanes yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, a ddaeth i’r brig.

Roedd y broses yn ddieithr iddo yntau hefyd.

“I fod yn onest, doedd gen i ddim syniad fod gwobrau o’r fath yn bodoli!” meddai.

Cafodd Siôn Jones, sydd hefyd wedi dysgu yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, ei enwebu tua blwyddyn yn ôl o dan gategori athro uwchradd y flwyddyn gan rai o fyfyrwyr blwyddyn 12 yr ysgol.

“Daeth rhywun atom ni mewn ffair ym Mhrifysgol Lerpwl a gofyn a fuasen ni’n hoffi enwebu athro o’r ysgol i drio am wobr yr ‘athro uwchradd gorau’,”  meddai Sara Pennant, disgybl ym mlwyddyn 12 Ysgol Syr Hugh. “Doedden ni methu meddwl am neb gwell na Mr Siôn Jones.

“Roedd dwy ferch arall o’r ysgol wedi ei enwebu hefyd, heb yn wybod i fi a fy ffrind!

“Mae’n athro mor frwdfrydig ac yn llwyddo i drosglwyddo hynny i’r myfyrwyr.”

Dyma y dylai pob athro ymdrechu i’w gyflawni. Does yr un yn berffaith, ac mi roedd adegau pryd o’n i, cyn-ddisgybl iddo, yn rhagweld y byddai tymor o astudio’r Tuduriaid yn waith llafurus. Ond doedd o ddim.

Er mai hanner dwsin o ddisgyblion enwebodd yr athro, mae’n saff dweud y byddai’r rhan helaeth o’i ddisgyblion, a’i gyn-ddisgyblion, yn barod iawn i wneud yr un peth.

Yn y misoedd diwetha’, daeth yr ysgol i wybod fod beirniaid – dau enillydd blaenorol y wobr – yn dod i ymweld â’r ysgol er mwyn asesu’r athro.

Yn ychwanegol i dystlythyr gan brifathro’r ysgol, Vaughan Williams, roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o lywodraethwyr yr ysgol yn bresennol i gefnogi cais yr athro.

Roedd y beirniaid hefyd yn bresennol yn rhai o’i wersi er mwyn pennu os oedd yn haeddu’r wobr ai peidio.

Daw llwyddiant Siôn Jones fel newydd calonogol i’r ysgol yn dilyn siom canlyniadau’r ymchwiliad i mewn i safonau ysgolion Cymru mewn adroddiad nôl ym mis Rhagfyr y llynedd.

Ysgol Syr Hugh Owen oedd yr unig ysgol yng Ngwynedd i gael ei rhoi yng nghategori ‘Band 5’, y marc gwaethaf posib o dan system graddio Llywodraeth Cymru.

Er ei bod hi’n anodd diffinio’r athro gorau, yn yr un modd ac mae anawsterau’n codi wrth geisio diffinio safonau ysgolion, mae’n glir fod pawb a oedd yn gysylltiedig â’r ysgol wedi tynnu at ei gilydd er mwyn cydnabod gwaith da un o’i hathrawon.

Bydd Siôn Jones yn mynd ymlaen i’r ffeinal ym mis Hydref lle bydd athrawon gorau Lloegr, athro gorau Gogledd Iwerddon a Chymru yn dod at ei gilydd i gystadlu am wobr ‘athro gorau Prydain’.

Bydd y ffeinal yn cael ei ddangos yn fyw ar BBC2 fis Hydref ac yn cael ei chynnal mewn “rhyw westy posh yn Llundain” fel y dywedodd yr athro diymhongar.

Ond dydi Siôn Jones ddim yn nerfys, “Dydw i ddim yn disgwyl ennill. Dw i’n lwcus i ennill yn erbyn athrawon o Gymru, heb son am y miloedd eraill o weddill Prydain!”

Dywedodd beirniaid y Gwobrwyon Dysgu fod Siôn Jones yn “athro ysbrydoledig, brwdfrydig, gofalgar” ac yn “llawn hiwmor”. Braf yw gweld fod yr athro’n derbyn y canmoliaeth mae’n ei haeddu.

Mae’n bwysig cydnabod pwysigrwydd dysgu fel proffesiwn, ac yn bwysicach fyth cydnabod y rheini sy’n serennu yn y maes hwnnw.