Set Sbri
Heddiw, am y tro cyntaf, mae criw sioe ieuenctid yr Urdd yn ymarfer Sbri yn Galeri, Caernarfon.
Bydd yr wythnos hon yn fwrlwm o waith technegol ac artistig gyda’r cyfarwyddwyr a’r technegwyr yn gweithio ar ddod a phopeth at ei gilydd. Cyfnod cyffrous ond prysur iawn i bawb.
Hefyd, dros y penwythnos yn neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle, roedd band byw yn chwarae gyda’r corws am y tro cyntaf. Er ei bod yn chwilboeth, roedd yn hyfryd gweld brwdfrydedd y bobl ifanc a’u hymroddiad wrth i’r ymarferion barhau rhwng 10yb a 4yp ddydd Sul.
Roedd Cwmni’r Frân Wen yn saethu pytiau o’r ymarferion ar gamera fideo ar gyfer creu DVD o waith y bobl ifanc. Roedden ni hefyd yn rhannu datblygiadau Sbri drwy drydar yn fyw o’r ymarferion @cwmnifranwen .
Does dim tocynnau ar ôl ar gyfer y perfformiad agoriadol nos Wener, ond mae modd archebu tocynnau ar gyfer perfformiad prynhawn Sadwrn. I sicrhau tocyn, cysylltwch â’r Galeri, Caernarfon.
Rhyfeddodau’r goedwig…
Yr wythnos hon hefyd, mae criw Swyn y Coed wedi cyrraedd coedwig Glynllifon.
Maen nhw eisoes wedi perfformio i rai ysgolion cynradd yng Nghoed Niwbwrch, Sir Fôn wythnos diwethaf. Mae’r daith perfformiadau i ysgolion wedi gwerthu’n barod a’r ymateb hyd yma wedi bod yn arbennig o dda.
Ddydd Llun, Mawrth a Mercher nesaf – yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, bydd Cwmni’r Frân Wen yn perfformio cynyrchiadau Swyn y Coed am 11yb a 3yp yng nghoedwig Glynllifon. Mae’r cynhyrchiad yn addas ar gyfer teuluoedd a phlant 7+ a bydd gweithdy creadigol i ddilyn.
Os ydych chi’n byw yn yr ardal, neu’n mynd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos nesaf – peidiwch â cholli cyfle euraid i fwynhau’r cynhyrchiad unigryw yn swyn coedwig Glynllifon.
Efallai y gwelwch ryfeddod arall hefyd! Mae coeden Cochwydden Arfor enfawr yn y goedwig (Costal/
California redwood) sy’n eithaf prin, ond yn hynod hardd. Dewch draw i ymgolli yn rhyfeddodau’r goedwig.
Gallwch archebu tocyn i weld Swyn y Coed drwy ffonio Cwmni’r Frân Wen ar 01248 715 048, ar 07854 032643 neu gallwch brynu tocyn cyn y perfformiad.
Byddwn yn cyfarfod ym mhrif faes parcio’r parc wrth y fynedfa. Edrych ymlaen i’ch gweld!