Gydag ychydig llai na phythefnos i fynd, mae criw ieuenctid Eryri wedi bod yn ymarfer ar gyfer sioe ieuenctid yr Urdd ac yn cyfri’r diwrnodau i’r noson agoriadol.
Roedd neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle yn fwrlwm o ddigwyddiadau amrywiol brynhawn dydd Sul wrth i grwpiau o bobl ifanc flocio, canu, ymarfer llinellau ac actio. Roedd Avanti yno hefyd yn saethu pytiau ar gyfer darllediadau rhaglenni’r Urdd.
Does dim tocynnau ar ôl ar gyfer perfformiad hwyr 1 Mehefin yn Galeri, Caernarfon. Dim ond 8 sy’n weddill ar gyfer perfformiad hwyr, 2 Mehefin.
Mae tocynnau ar ôl ar gyfer perfformiad prynhawn 2 Mehefin ac ychydig o docynnau ar gael ar gyfer perfformiad nos, 4 Fehefin.
Gallwch archebu eich tocyn drwy wefan Galeri Caernarfon.
Dyma rai lluniau o’r ymarferion ddydd Sul diwethaf :
Gweithdy Capoeira a drymio
Mae Cwmni’r Frân Wen wedi bod yn brysur hefyd yn datblygu cynhyrchiad Swyn y Coed.
Ar ôl llwyddiant perfformiadau’r llynedd, byddwn yn ail-deithio Swyn y Coed ac yn cynnal wythnos o berfformiadau cyhoeddus yng nghoedwig Glynllifon yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2012.
Mae’r wythnos perfformiadau ar gyfer ysgolion cynradd ddiwedd y mis wedi gwerthu’n barod.
Yng nghanol ymarferion wythnos ddiwethaf, roedd actorion Swyn y Coed yn cymryd rhan mewn gweithdy Capoeira (techneg ’martial art’) symud a drymio gyda Colin Daimond.
Mae’r cynhyrchiad yn addas ar gyfer plant 7 oed + , teuluoedd ac ar gyfer dysgwyr.
Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y perfformiadau yng nghoedwig Glynllifon drwy:
www.wegottickets.com/franwen neu drwy ffonio Cwmni’r Frân Wen ar 01248 715 048.
Byddwn yn cyfarfod ym mhrif faes parcio’r parc wrth y fynedfa am 11yb a 3yp.
Tocyn oedolyn £5
Tocyn Plant, pensiynwyr a myfyrwyr £3
Tocyn Teulu (2 oedolyn/ 3 plentyn) £15