Kristian Phillips
Er y sôn fod Nigel Davies am adael i hyfforddi Caerloyw, roedd prif hyfforddwr y Sgarlets heddiw ar Barc y Sgarlets yn croesawu chwaraewr newydd i’r rhanbarth – Kristian Phillips.

Mae’r asgellwr 21 oed wedi ymuno â’r Sgarlets o ranbarth y Gweilch. Mae wedi cynrychioli tîm 7-bob-ochr Cymru a bu’n ymarfer gyda charfan cyntaf Cymru yn 2010 ar ôl gwneud argraff ar Warren Gatland, ond ni chafodd llawer o gyfleon yn nhîm cyntaf y Gweilch y tymor hwn.

Dywedodd Nigel Davies fod awch Kristian Phillips i chwarae rygbi ymosodol wedi apelio ato ac y bydd y Cymro Cymraeg o Gastell Nedd yn eilydd cymwys i Sean Lamont, sy’n dychwelyd i’r Alban.

“Mae Kristian yn chwaraewr a fydd yn datblygu yn yr awyrgylch sydd gyda ni yma. Mae ganddo botensial anhygoel a thalent a chyflymdra.” Meddai Nigel Davies.

Dywedodd Kristian Phillips ei fod yn awchu am gael chwarae ar ôl 18 mis “rhwystredig” o ran cyfleon ar y cae.

Cryfhau’r pac ac ymestyn cytundebau

Mae Nigel Davies, sydd yn dal i gael ei gysylltu’n gryf gyda swydd Caerloyw, yn dweud fod cryfhau’r pump blaen yn y pac yn flaenoriaeth i’r Sgarlets.

Ychwanegodd y bydd “chwaraewyr fel Rhys Priestland, Jon Davies, George North, Ken Owens, Josh Turnbull, Scott Williams a Rob McCusker ac eraill yn cymryd yr awennau ar y cae y tymor nesaf tra’n cefnogi grwp o chwaraewyr brwdfrydig sy’n datblygu o Academi’r Scarlets.”

Mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n ymestyn cytundeb y maswr Aled Thomas a bod criw o chwaraewyr ifainc yn  aros gyda’r rhanbarth y flwyddyn nesaf, naill ai ar gytundeb datblygu neu ar ymestyniad i gytundeb:

Samson Lee, prop Cymru dan 20; Owen Williams, 20, maswr o Ystradgynlais; Aled Davies, 19, mewnwr o Gaerfyrddin; Dale Ford, 20, canolwr/asgellwr o Drimsaran; a Jordan Williams, 18, maswr/cefnwr o Lanelli

Ymhlith aelodau newydd Academi’r Sgarlets mae Dylan Morgan, Lewis Rawlins, Dion Jones, Steffan Hughes, Thomas Ball, Tom Phillips a Dan Jones.