Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Cwmni’r Frân Wen yn rhannu paratoadau  diweddaraf Sioe Ieuenctid yr Urdd  gyda darllenwyr Golwg360 ac yn sôn am ‘Swyn y Coed’ – cynhyrchiad theatrig fydd yn cael ei berfformio yng nghoedwig Glynllifon yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Ers y blog diwethaf, mae pobl ifanc Eryri wedi bod yn brysur yn ’marfer, dawnsio a dysgu llinellau ar gyfer sioe ieuenctid yr Urdd, SBRI.

Bellach, mae Fran Wen wedi derbyn cynllun set SBRI gan y cynllunydd, Gwyn Eiddior ac mae Iola Ynyr, Cyfarwyddwr y cynhyrchiad wedi bod yn trafod y cynlluniau goleuo a llwyfannu gyda staff Galeri yng Nghaernarfon.

Yn y cyfamser, mae’r criw wedi penderfynu eu bod eisiau hwdis SBRI. Byddwn yn cymryd yr archebion yn ystod yr wythnos.

Penbleth y pythefnos diwethaf oedd amserlennu ymarferion yn ystod cyfnod arholiadau’r bobl ifanc. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu holl waith caled a brwdfrydedd yn ystod cyfnod prysur iawn.



‘Caffi’

Hefyd, hyfryd gweld sut mae paratoadau’r cynhyrchiad wedi dod a chriw ynghyd. Mae ’na griw wedi dechrau caffi yn ystod yr ymarferion. Maen nhw’n gwerthu bob math o bethau – paneidiau, cacennau, bisgedi  a fflapjacs. Digon o ddanteithion i gadw lefelau egni’r criw yn uchel.

Mae’n bosibl archebu tocynnau i SBRI drwy wefan Galeri

http://www.galericaernarfon.com/ên/theatre/whats-on/12/06/sbri



Dyma rai lluniau o’r criw yn brysur wrth eu gwaith!



‘Swyn y Coed’

Hefyd, ymhen wythnos, bydd criw actorion ‘Swyn y Coed’ yn dechrau ymarfer ar gyfer cynhyrchiad arbennig yng Nghoedwig Parc Glynllifon yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Mae Cwmni’r Fran Wen yn ailgydio yn ‘Swyn y Coed’ – cynhyrchiad wedi’i ysbrydoli gan Chwedl Pwyll a Rhiannon – ar ôl ymateb gwych llynedd.

Mae’r profiad  yn addas ar gyfer teuluoedd a phlant 7 oed +. Bydd Gweithdy Creadigol i ddilyn y perfformiadau yn canolbwyntio ar sgiliau dyfeisio stori. Byddwn hefyd yn creu adnoddau creadigol i gyd-fynd a’r cynhyrchiad.


Lle a Phryd?

4 , 5 a 6 Mehefin yng Nghoedwig Glynllifon!

I archebu tocynnau – 01248 715048 neu

www.wegottickets.com/franwen