Gwir Gymru
Ding! Ding! Ding! Yn y gornel ‘Ie’, y Western Mail, yn y gornel ‘Na’, Gwir Gymru.

Efallai nad y tacteg gorau, llai na mis cyn dydd y bleidlais fawr, ydi ffraeo gydag un o brif ffynhonellau newyddion y wlad. Roedd Rachel Banner yn llym iawn ei beirniadaeth o’r Western Mail heddiw. Ond efallai ei bod hi’n teimlo nad oes ganddi unrhyw beth i’w golli – mae’r Western Mail eisoes wedi ei gwneud hi’n gwbwl glir eu bod nhw’n cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’.

Rydw i’n cydymdeimlo i ryw raddau â Rachel Banner. Dydw i ddim yn siwr a ddylai papur newydd y Western Mail fod wedi datgan ei fod o blaid pleidlais ‘Ie’, a hynny mis cyfan cyn y bleidlais. Wedi’r cwbwl, heblaw am y BBC, dyma’r unig ymdriniaeth o wleidyddiaeth Cymru y bydd y rhan fwyaf o bobol yn ei weld. Digon teg pan mae gan wlad nifer o bapurau newydd sy’n anghytuno’n chwyrn â’i gilydd, e.e Y Guardian a’r Telegraph. Ond pam mai chi yw’r unig bapur newydd o bwys yn y wlad mae yna gyfrifoldeb i roi llais teg i’r ddwy ochr.

Mae datganiad y Western Mail wedi lladd y ddadl i bob pwrpas i’r 29,000 o bobol sy’n darllen y papur yn ddyddiol, yn yr un ffordd ac y gwnaeth penderfyniad Gwir Gymru i beidio ymgeisio i fod yn ymgyrch ‘Na’ swyddogol sicrhau na fydd pobol Cymru yn clywed y ddwy ochor ar eu setiau teledu.

Gwir Gymru – Sarah Palin?

Serch hynny dyw Gwir Gymru (dw i’n parhau i fynnu rhoi enw Cymraeg iddyn nhw, hyd yn oed os nad ydyn nhw eisiau un) ddim yn helpu eu hachos eu hunain. Maen nhw’n fy atgoffa i, i ryw raddau, o Sarah Palin yn yr Unol Daleithiau. Maen nhw’n cael llawer iawn o sylw, nid am eu bod nhw’n arbennig o gredadwy, ond am eu bod nhw’n tueddu i wneud a dweud pethau gwirion. Am eu bod nhw’n ein difyrru ni mae’r wasg yn adrodd popeth y maen nhw’n ei ddweud ac maen nhw wedi tyfu i fod yn ymgyrch ‘Na’ de facto.

Fel Sarah Palin mae gyda nhw gefnogaeth canran o’r boblogaeth fydd o’u plaid nhw beth bynnag maen nhw’n ei ddweud, ond eto fel Sarah Palin does gyda nhw ddim lot o obaith o argyhoeddi’r pleidleiswyr cymhedrol eu bod nhw’n siarad synnwyr.

Canlyniad hyn i gyd ydi fod yr ymgyrch wedi mynd braidd yn dawel, sydd yn siom. Mae angen trafodaeth drwyadl a thanllyd o blaid ac yn erbyn rhagor o bŵer i’r Cynulliad arnom ni, neu fydd y bleidlais ddim yn cydio yn niddordeb pobol a fydd neb yn pleidleisio. Wedyn bydd digon o gecru ynglŷn â dilysrwydd y canlyniad – ond cecru mis yn rhy hwyr.