Nikitta Grender
Mae rhieni’r ferch feichiog o Gasnewydd gafodd ei thrywanu i farwolaeth wedi talu teyrnged iddi heddiw.
Daeth diffoddwyr tân o hyd i gorff Nikitta Grender, 19, ar ôl tân yn ei fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, am 7.50am ddydd Sadwrn.
Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, yn enwedig ffrindiau, i gysylltu gyda nhw fel eu bod nhw’n gallu dal y llofrudd.
Heddiw siaradodd rheini Nikitta Grender yn gyhoeddus am y tro cyntaf gan dalu teyrnged i’w merch a’u hwyres Kelsey-May oedd ar fin cael ei geni.
“Rydyn ni’n ceisio amgyffred y digwyddiadau ofnadwy sydd wedi arwain at farwolaeth ein merch brydferth Nikitta a’n hwyres Kelsey-May,” medden nhw.
“Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda’r heddlu er mwyn iddyn nhw allu datrys beth ddigwyddodd.
“Rydyn ni eisiau cael ei gadael mewn heddwch ar hyn o bryd gyda theulu Nikitta a Kelsey-May er mwyn ceisio deall, os yw hynny’n bosib, pam bod ein merch a’n hwyres wedi eu cymryd oddi arnom ni.”
Larwm tân
Cadarnhaodd yr heddlu heddiw bod y darpar fam wedi ei lladd cyn i’r tân gychwyn yn ei fflat. Maen nhw’n credu fod y tân yn ymdrech i guddio’r llofruddiaeth.
Mae cymdogion wedi dweud wrth yr heddlu bod larwm tân y fflat wedi canu tua 5.30am ddydd Sadwrn.
Dywedodd ffrindiau bod Nikitta a’i chariad wedi symud i’r fflat llai na chwe mis yn ôl ac yn edrych ymlaen at fod yn rieni.
“Rydyn ni bellach yn eithaf sicr ynglŷn â symudiadau Nikitta ddechrau’r prynhawn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Ychwanegodd ei bod hi wedi dychwelyd i’w fflat am 1am bore ddydd Sadwrn ar ôl taith i McDonalds.
“Rydyn ni’n gwybod bod y larwm tân wedi canu tua 5.30am. Rydyn ni’n gwybod bod y tân wedi cychwyn ar ôl iddi gael ei thrywanu, er mwyn cuddio’r ymosodiad mae’n siŵr.
“Felly rydyn ni eisiau gwybod lle’r oedd Nikitta ac a oedd yna unrhyw ymwelwyr i’r fflat neu weithgaredd drwgdybus yn yr ardal rhwng 1am a 5.30am.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 01443 865562 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.