John Walter Jones
Mae cyn-gadeirydd S4C wedi dweud ar Radio Cymru ei fod wedi gwrthwynebu’r penderfyniad i ddiswyddo Iona Jones.
Dywedodd John Walter Jones nad oedd wedi bod o blaid y penderfyniad a wnaethpwyd ym mis Gorffennaf i ddiswyddo’r Prif Weithredwr.
Roedd yn siarad ar raglen Wythnos Gwilym Owen Radio Cymru. Ychwanegodd nad oedd yn cytuno â’r penderfyniad oherwydd bod yr “amser yn anghywir”.
Dywedodd John Walter Jones bod aelodau awdurdod y sianel wedi cynnal pleidlais ar y mater, a’i fod wedi pleidleisio yn erbyn.
“Cymerwyd pleidlais ar ddyfodol y Prif Weithredwr ac fe benderfynwyd o fwyafrif i gymryd y camrau a gymerwyd yn y dyddiau dilynol,” meddai ar raglen Wythnos Gwilym Owen.
Ychwanegodd nad oedd yn teimlo bod cael gwared â’r prif weithredwr yn “beth doeth” ar y pryd.
Dywedodd ei fod wedi penderfynu aros yn ei swydd er mwyn gwneud y gorau o bethau, ond fod yna “dyndra” rhyngddo ef a gweddill aelodau’r awdurdod.
Llythyr
Roedd wedi ymddiswyddo yn y pen draw ar ôl i lythyr personol iddo gael ei ddarllen gan aelod arall o’r awdurdod, meddai.
Roedd wedi rhoi gwybod i’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ei fod am ymddeol ar ei ben-blwydd yn 65 oed ddiwedd mis Mawrth 2011.
Dywedodd fod aelodau eraill yr awdurdod wedi gweld cynnwys y llythyr ac roedd un wedi ei ddarllen i’r aelodau eraill mewn cyfarfod.
Gadawodd y cyfarfod a honnodd yr aelodau eraill wedyn ei fod wedi ymddiswyddo ar unwaith, meddai.