Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Cwmni’r Frân Wen yn rhannu paratoadau diweddaraf Sioe Ieuenctid yr Urdd gyda darllenwyr Golwg360 ac yn sôn am ‘Swyn y Coed’ – cynhyrchiad theatrig fydd yn cael ei berfformio yng nghoedwig Glynllifon yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Mae Cwmni’r Frân Wen yn gweithio gydag ieuenctid Eryri ar gynhyrchiad newydd sbon fydd yn agor gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd.
Fe fydd ‘Sbri’ yn cael ei lwyfannu gan ieuenctid Eryri yn Galeri, Caernarfon (Gwener, 1 Mehefin – Llun, 4 Mehefin).
Mae tua 130 o ieuenctid ardal Eryri yn rhan o’r sioe sydd wedi’i chyffelybu i’r fersiwn Gymraeg o’r sioe Americanaidd boblogaidd, Glee.
‘Gwirioni ar ganu a dawnsio’
Lleolir ‘Sbri!’ mewn gwersyll corawl lle mae criw o ddisgyblion yn gwirioni ar ganu a dawnsio.
Mae Mr a Mrs Cojar wedi bod yn cynnal gwersyll preswyl corawl ers blynyddoedd maith – ond gyda dyfodiad myfyrwraig ifanc, mae patrwm arferol y cwrs yn cael ei gwestiynu. Mae mwyafrif o aelodau’r cwrs yno o’u gwirfodd, ond wrth i unigolion gael eu gorfodi i fynychu fel cosb gan eu rhieni, mae gwrthdaro yn berwi rhwng yr oedolion a’r bobl ifanc.
Bydd y perfformiad yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon poblogaidd Cymraeg wedi eu haddasu mewn arddulliau cyfoes gan gynnwys Caneuon Brawd Houdini – Meic Stevens, Tŷ ar y Mynydd – Maharishi a Ni yw y byd – Gruff Rhys.
‘Brwdfrydedd heintus’
Bellach, mae cymeriadau’r sioe wedi eu castio ac mae’r corws yn gyfarwydd â mwyafrif y caneuon.
“Rydym wedi llunio amserlen ymarfer a hyd yn hyn, mae’r cynhyrchiad yn datblygu’n gadarn,” meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Sbri a Chyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen.
“Yn bendant, mae yna unigolion gwirioneddol dalentog yn y cast ac mae brwdfrydedd y corws yn heintus”.
Beth Angell sy’n gyfrifol am y sgript gydag Owain Gethin Davies yn Gyfarwyddwr Cerdd y sioe.
Mae’n bosibl prynu tocynnau i’r sioe drwy wefan y Galeri – http://www.galericaernarfon.com/cy/theatre
Facebook: www.facebook.com/cwmnifranwen
Twitter / Trydar: @cwmnifranwen