Mae ITV a YouGov wedi bod wrthi’n holi’r cyhoedd Cymreig am eu bwriadau pleidleisio yn ôl eu harfer misol. Llafur sy’n llwyddo’n ysgubol unwaith eto, gyda chynnydd bach yn y gefnogaeth. Mae ITV wedi comisiynu YouGov i ddarganfod pwy fyddai’n trafferthu pleidleisio’r tro hwn felly mae’r ffigyrau heb eu pwyso yn y bracedau. Wrth reswm, mae’r Ymgyrch Ie wedi rhyddhau datganiad yn dathlu bod yr arolwg yn dangos bod 49% o’r rhai a fyddai’n trafferthu mynd i’r blwch pleidleisio fis Mawrth yn bwriadu pleidleisio Ie yn y refferendwm. Fodd bynnag, dyw ymgyrchu’r pythefnos diwethaf ddim wedi cael rhyw lawer o effaith ar y nifer o bobol sy’n bwriadu pleidleisio ie.
Os ydych chi am gymharu’r canlyniadau ers mis Ebrill, mae’r manylion yma.
Bwriadau Pleidleisio yn Etholiad y Cynulliad
(o gymharu ag etholiad 2007 ac arolwg barn Rhagfyr. DS Mae ffigyrau mis yma wedi cael ei pwyso o ran tebygrwydd o bleidleisio, mae’r ffigyrau heb ei pwyso mewn bracedau)
Pe bai etholiad Cynulliad yfory, a gan ystyried y bleidlais etholaeth, sut fyddech chi’n pleidleisio?
2007 Rhag Ion
Llaf 32% 44% 45% (47%)
PC 22% 21% 21% (20%)
Ceid. 22% 23% 21% (21%)
D. Rh 15% 6% 7% (7%)
Eraill 8% 6% 6% (7%)
A gan ystyried y bleidlais blaid neu ranbathol i’r Cynulliad, dros pa restr plaid y byddech chi’n pleidleisio?
2007 Rhag Ion
Llaf 30% 42% 41% (43%)
PC 21% 21% 21% (20%)
Ceid. 22% 22% 20% (20%)
D.Rh 12% 5% 8% (8%)
Eraill 16% 10% 10% (11%)
Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm
Pe bai refferendwm yfory i roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad, sut fyddech chi’n pleidleisio?
(Unwaith eto mae rhaid wedi’i pwyso)
Dec Jan
Ie 46% 49% (44%)
Na 25% 26% (23%)
Ddim yn gwbod/ 29% 26% (32%)
Ddim am bleidleisio